Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Teitl y Swydd: Rheolwr Gweithrediadau Eisteddfod yr Urdd
Math o gytundeb: Swydd barhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 7 : £42,833 - £47,223 y flwyddyn
Lleoliad: Un o brif swyddfeydd yr Urdd (gan gynnwys Caerdydd, Glan-llyn, Bangor a Caerfyrddin)
Dyddiad Cau: 15fed o Orffennaf am hanner dydd
Dyddiad Cyfweld: 23ain o Orffennaf
Y Swydd
Mae Adran y Celfyddydau’r Urdd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd, yn ogystal â rhedeg Cwmni Theatr yr Urdd, a chynnal nifer o brosiectau cymryd rhan i ieuenctid Cymru dros y flwyddyn. Ein prif nod yw cynnig Llwyfan i Bawb, drwy ddarparu profiadau a chyfleoedd celfyddydol o ansawdd uchel drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc o bob cefndir yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus gyda phrofiad rheoli i arwain elfennau gweithredol a thechnegol yr Eisteddfod a phrosiectau allweddol eraill, gan sicrhau priofiad diogel, hygyrch ac ysbrydoledig i bawb.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Maddocks (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau) ar lliomaddocks@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org