A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Gweithrediadau / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Gweithrediadau
Lleoliad:
Ynys Môn, Y Bala, Bangor, Caerdydd, Denbigh, Dolgellau, Y Fflint, Gwynedd, Llandysul, Llangrannog, Gogledd Cymru, Un o ganolfannau'r Urdd, De Cymru, Cymru
Cyflog:
£42,833 - £47,223 y flwyddyn
Cyfeirnod:
Eis-RhG
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Urdd Gobaith Cymru
Dyddiad Cau:
15-07-2026

Teitl y Swydd:  Rheolwr Gweithrediadau Eisteddfod yr Urdd

Math o gytundeb:  Swydd barhaol 

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 7 : £42,833 - £47,223 y flwyddyn

Lleoliad:  Un o brif swyddfeydd yr Urdd (gan gynnwys Caerdydd, Glan-llyn, Bangor a Caerfyrddin)

Dyddiad Cau:  15fed o Orffennaf am hanner dydd

Dyddiad Cyfweld:  23ain o Orffennaf

 

Y Swydd

Mae Adran y Celfyddydau’r Urdd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd, yn ogystal â rhedeg Cwmni Theatr yr Urdd, a chynnal nifer o brosiectau cymryd rhan i ieuenctid Cymru dros y flwyddyn. Ein prif nod yw cynnig Llwyfan i Bawb, drwy ddarparu profiadau a chyfleoedd celfyddydol o ansawdd uchel drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc o bob cefndir yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus gyda phrofiad rheoli i arwain elfennau gweithredol a thechnegol yr Eisteddfod a phrosiectau allweddol eraill, gan sicrhau priofiad diogel, hygyrch ac ysbrydoledig i bawb. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Maddocks (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau) ar lliomaddocks@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org