Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd: Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Drwy weithgareddau marchnata arloesol byddwch chi’n helpu i wireddu ein Strategaeth Farchnata a Chyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o S4C a’r oll mae’n ei gynnig, gan ddenu cynulleidfaoedd Cymru a thu hwnt trwy fanteisio ar y cyfleoedd mai llwyfannau digidol yn eu cynnig i ymgyrchoedd marchnata, brand ac ymgysylltu.
Byddwch chi’n gyfrifol am rannu a hyrwyddo cynnwys a gwasanaethau S4C gan feithrin perthynas barhaus â chynulleidfaoedd allweddol, cwmnïau cynhyrchu a rhanddeiliaid amrywiol.
Drwy amryw weithgareddau marchnata byddwch yn dangos sut mae S4C yn ceisio sicrhau fod y Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd pawb yng Nghymru drwy ddarparu cynnwys beiddgar ac arloesol sy’n dathlu’n diwylliant cyfoes.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa a chyfnod swyddfa parhaus am y bythefnos gyntaf er mwyn hyfforddi - mae'n debygol y bydd yr hyfforddiant yma yn digwydd yn ein swyddfa/swyddfeydd yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd).
Cyflog: £38,000.00 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 22 Medi 2025.
Nid ydym yn derbyn CV.
Dyddiad Cyfweliad: 02 Hydref 2025, lleoliad i’w gadarnhau.