Swydd:
Rheolwr Marchnata - Datblygu a Thwf Busnes
Lleoliad:
Gweithio o Gartref
Cyflog:
£34,000 - £38,000
Cleient:
Business in Focus
Y Contract
Business in Focus yw'r prif bartner cyflenwi ym Mhartneriaeth Menter Cymru (EPC), ynghyd â Menter Môn, M-SParc ac ecosystem o asiantaethau cymorth ledled Cymru. Mae EPC wedi ennill y contract i ddarparu gwasanaeth Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i entrepreneuriaid ledled Cymru.
Mae'r Gwasanaeth Datblygu a Thwf Busnes yn canolbwyntio ar ddarparu ystod eang o gyngor i fusnesau sy'n tyfu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys cymorth ar ffurf ddigidol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.
Roedd EPC yn llwyddiannus yn eu cais i ddarparu’r ddau wasanaeth cyngor a ddarperir gan Busnes Cymru sef y Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes (ESU) a'r Gwasanaeth Datblygu a Thwf Busnes (BDG).
Y Rôl
Mae'r Cydlynydd Marchnata yn cefnogi’r Rheolwr Contract BDG gyda datblygu, gweithredu a rheoli cynllun marchnata Busnes Cymru fel y cytunwyd arno, ac ar y cyd ag ymgyrchoedd a gweithgareddau hyrwyddo a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rôl yn cysylltu â Rheolwyr Gweithredol BDG i ddarparu swyddogaeth farchnata effeithiol sy'n gyrru ac yn ymgysylltu â grŵp cleientiaid amrywiol i gefnogi'r timau cyflenwi i gyflawni amcanion a thargedau.
Mae rheoli perthynas effeithiol yn allweddol i lwyddiant y rôl hon. Rhaid i'r Cydlynydd Marchnata sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol a gweithio ar y cyd â Thîm Rheoli Gweithredol BDG, Llywodraeth Cymru, ein partneriaid cyflenwi, a'r holl randdeiliaid eraill.
Y Cyfrifoldebau
- Ymchwilio i a dadansoddi tueddiadau'r farchnad, demograffeg, cynhyrchion cystadleuwyr, a gwybodaeth berthnasol arall i lywio strategaethau a gweithgareddau marchnata.
- Bob blwyddyn, bydd yn ysgrifennu ac yn cytuno ar gyllideb ar gyfer cynllun marchnata strategol ac ymgyrch dactegol Busnes Cymru fel y gellir targedu busnesau masnachu ar gyfer eu recriwtio i dderbyn Gwasanaeth Busnes Cymru yn unol â model enillion ar fuddsoddiad y cytunwyd arno. Cytuno ar strategaeth gyda'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'u partneriaid cyflenwi, contractwyr Busnes Cymru a'u cynrychiolwyr.
- Monitro, dadansoddi ac adrodd ar effeithiolrwydd strategaethau ac ymgyrchoedd marchnata, er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol o ran cynyddu nifer yr atgyfeiriadau o ansawdd fel y gellir dangos tystiolaeth o ganlyniadau mesuradwy neu amcanion eraill. Adrodd ar berfformiad i’r Rheolwr Contract BDG yn rheolaidd ac yn amserol. Pan fydd materion yn cael eu nodi, cynnig mesurau a gweithgareddau amgen i wella perfformiad a chanlyniadau.
- Pan mae gweithgareddau marchnata yn cael eu hallanoli, rheoli'r berthynas ac adolygu perfformiad i sicrhau bod y gwaith o safon uchel, yn cwrdd â pharamedrau perfformiad derbyniol, ac yn cydymffurfio â’r amcanion, y gyllideb a’r broses y cytunwyd arnynt.
- Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i hwyluso a dylanwadu ar eu hymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus, gwefan, marchnata a chyfryngau cymdeithasol er budd gwasanaeth Cynghori BDG Busnes Cymru.
- Sicrhau bod yr holl weithgareddau marchnata yn cydymffurfio â chanllawiau brand Busnes Cymru/Llywodraeth Cymru. Gweithredu fel gwarcheidwad Brand ar gyfer EPC.
- Sicrhau bod gweithgarwch marchnata yn mynd rhagddo fel y cynlluniwyd ac o fewn y gyllideb, ac adrodd ar unrhyw amrywiad yn hyn o beth gan addasu'r cynllun hwn yn seiliedig ar dystiolaeth i barhau i gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt
- Rheoli effeithiolrwydd gweithgaredd marchnata; i reoli adborth ar ddigwyddiadau ac argymell a chymryd camau gweithredu i sicrhau gwelliant parhaus
- Dyfeisio a gweithredu mesurau ymwybyddiaeth brand ac adeiladu brand Busnes Cymru a sicrhau ei ddefnydd cyson ar draws y gwasanaeth
- Cynhyrchu lefelau cytunedig o astudiaethau achos at ddibenion marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ac ymgynghori â LlC a phartïon eraill ar gyfer eu rhyddhau a'u defnyddio mewn modd amserol.
- Mynychu cyfarfodydd contract rheolwyr BDG a BW BDG i gyflwyno cynlluniau marchnata, adrodd ar weithgareddau a chanlyniadau, a derbyn adborth adeiladol. Rheoli data sy'n gysylltiedig â marchnata yn gywir gan sicrhau bod yr holl weithgaredd yn cael ei gofnodi ar systemau TG a chanlyniadau'n cael eu tystio iddynt a'u dogfennu'n briodol. Cymryd camau rheoli i gywiro materion a godwyd gan ddata o'r fath er mwyn cyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt
- Adrodd yn rheolaidd am gynnydd marchnata i Reolwyr BDG eraill Busnes Cymru a chymryd rhan weithredol ac arferol mewn cyfarfodydd priodol.
- Bwydo gwybodaeth reoli yn ôl i’r Rheolwr Contract BDG a'r Tîm Rheoli Gweithredol fel y gellir monitro perfformiad yn erbyn proffiliau a darparu sylwebaeth ar unrhyw heriau o ran perfformiad.
- Cefnogi'r Tîm Rheoli trwy nodi a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaus, e.e. gweithdrefnau, systemau gwaith.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n rhesymol ofynnol gan Dîm Rheoli Gweithredol Busnes Cymru.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:
-
Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy'r cymorth busnes a'r wybodaeth a ddarperir i gleientiaid BDG Busnes Cymru.
-
Cynnal ymwybyddiaeth, hyfforddiant a DPP cyfredol o faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a sut i hyrwyddo a darparu gwasanaeth cynhwysol i bob cleient yn broffesiynol.
-
Hyrwyddo a darparu gwasanaeth cynhwysol yn unol â gwerthoedd Business in Focus a gofynion cytundebol Llywodraeth Cymru.
Manyldeb Person
- Cymhwyster Marchnata e.e. Tystysgrif CIM mewn Marchnata neu gymhwyster uwch A/NEU Prawf o brofiad gwaith gyda gweithgareddau DPP da i gefnogi datblygiad a gwybodaeth mewn rôl Farchnata weithredolRheoli cydlyniant a darpariaeth cymorth marchnata mewn rôl flaenorol
- Rheoli perthnasoedd allweddol yn effeithiol a gweithio ar y cyd â chleientiaid a rhanddeiliaid
- Prawf o brofiad rheoli marchnata gan gynnwys rheoli cyllideb ar gyfer gweithgareddau marchnata
- Profiad o greu a rheoli cynlluniau marchnata i gyflawni amcanion busnes gan ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau yn effeithiol a gweithio i ganllawiau brand llym
- Profiad o reoli'n effeithiol yr holl lwyfannau marchnata digidol a chymdeithasol perthnasol, e.e. Facebook, LinkedIn, Twitter, Instagram, You Tube a'u defnyddio mewn amgylchedd masnachol
- Rheoli ymgyrchoedd brand sy'n cynnwys amserlennu ar draws amrywiaeth o lwyfannau, sy'n gofyn am sgiliau ysgrifennu copi cynnwys cryf ar gyfer cyfryngau traddodiadol a digidol
- Profiad o ddefnyddio Google Analytics, SEO a PPC
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae busnesau'n gweithredu ac anghenion busnesau bach a chanolig yng nghyd-destun economi Cymru
- Profiad gwaith blaenorol mewn neu gyda gwasanaethau neu ymgynghoriaeth cymorth busnes (yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat)
- Dealltwriaeth o wahaniaethau lleol / rhanbarthol yn economi Cymru
Sgiliau a Chymwyseddau
- Sefydlu a chynnal rhwydwaith effeithiol o gysylltiadau yn unol â strategaeth ac amcanion.
- Yn effeithiol o ran pennu blaenoriaethau, cynllunio amser, trefnu llwyth gwaith i sefydlu canlyniadau, amcanion a cherrig milltir mesuradwy ar gyfer ei hun.
- Yn gallu gweithio’n effeithiol ac yn gynhyrchiol o dan bwysau, ac yn gallu addasu i a derbyn amgylchiadau sy'n newid.
- Y gallu i ysgrifennu adroddiadau busnes mewn ffordd strwythuredig a chryno, gan ddehongli/cyflwyno ffigurau a data mewn ffordd broffesiynol.
- Hyderus o ran y gallu i ryngweithio'n effeithiol â phobl, sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol, perswadio, negodi a dylanwadu ar bobl, ar bob lefel.
- Hyderus o ran y gallu i gyflwyno a mynychu cyfarfodydd, gwneud cyfraniadau ystyrlon a safbwyntiau rhesymegol.
- Cyfathrebu - llafar: Addasu arddull a manylion i'r gynulleidfa. Y gallu i ryngweithio'n effeithiol â phobl; perswadio a dylanwadu ar bobl ar bob lefel; esbonio/cyflwyno gwybodaeth yn gryno ac yn rhesymegol.
- Cyfathrebu - ysgrifenedig: Addasu arddull a manylion i'r gynulleidfa. Yn cyflwyno gwybodaeth yn gywir, yn gryno, ac yn rhesymegol.
- Gwasanaeth Cwsmeriaid – Yn gweithio ac yn cydweithio ag eraill yn effeithiol, yn gallu nodi anghenion a darparu atebion ymarferol, rheoli disgwyliadau, addasu ymagwedd unigol at wahanol sefyllfaoedd.
- Dysgu/Gwella – yn gallu mynd ati’n rhagweithiol i geisio gwybodaeth, yn dysgu o gamgymeriadau ac yn hyrwyddo adborth adeiladol
- Yn gallu gweithio'n effeithiol ac yn gynhyrchiol o dan bwysau, yn gallu addasu a derbyn amgylchiadau sy'n newid
- Gweithredu gyda lefel uchel o uniondeb, amddiffyn cyfle cyfartal ac arwain trwy esiampl i gynnal moeseg a gwerthoedd sefydliadol
- Profiadol iawn o ran defnyddio llwyfannau digidol gyda sgiliau TG cryf, e.e. Microsoft Office/365.
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg bob amser yn ddymunol iawn a gall fod yn hanfodol mewn rhai amgylchiadau, yn amodol ar y galluedd adnoddau ar y pryd.
- (NB: Bydd pob swydd wag yn nodi a yw'n ddymunol iawn neu'n hanfodol a bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos.)
- Trwydded yrru ddilys yn y DU a defnydd o gerbyd i deithio yn y rhanbarth yn rheolaidd i gyflawni dyletswyddau, e.e. mynychu digwyddiadau, cyfarfodydd.
Y Busnes
Mae Business in Focus yn fenter gymdeithasol sy'n ymroddedig i gefnogi busnesau newydd a sefydledig. Rydym wedi bod yn helpu pobl i ddechrau a thyfu eu busnesau eu hunain ers dros dri degawd, trwy ddarparu cyngor busnes arbenigol wedi'i deilwra, mynediad at gyllid, gofynion eiddo a hyfforddiant sgiliau. Mae rhai o'n gwasanaethau yn cael eu darparu ar ran cyrff cyhoeddus a phreifat, ac mae gennym hanes ardderchog o weithio gyda Llywodraethau’r DU a Chymru.
Y bobl y tu ôl i'r brand yw'r hyn sy'n ein gwneud ni'n llwyddiannus. Mae'r teulu Business in Focus yn cynnwys grŵp amrywiol o bobl gydag amrywiaeth eang o sgiliau ac arbenigedd – yr hyn sy'n ein huno yw ein dymuniad i adeiladu partneriaethau gwych a chyflawni'n gryf. Fel cwmni sydd ag Achrediad Awr dwbl Buddsoddwyr mewn Pobl, rydym yn cefnogi ein gweithwyr i'w helpu i lwyddo yn eu rolau.