Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Business in Focus yw'r prif bartner cyflenwi ym Mhartneriaeth Menter Cymru (EPC), ynghyd â Menter Môn, M-SParc ac ecosystem o asiantaethau cymorth ledled Cymru. Mae EPC wedi ennill y contract i ddarparu gwasanaeth Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i entrepreneuriaid ledled Cymru.
Mae'r Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes yn canolbwyntio ar ddarparu ystod eang o gyngor i bobl ifanc a busnesau newydd drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys cymorth ar ffurf ddigidol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.
Roedd EPC yn llwyddiannus yn eu cais i ddarparu’r ddau wasanaeth cyngor a ddarperir gan Busnes Cymru sef y Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes (ESU) a'r Gwasanaeth Datblygu a Thwf Busnes (BDG).
Mae'r Cydlynydd Marchnata yn cefnogi’r Rheolwr Contract ESU gyda datblygu, gweithredu a rheoli cynllun marchnata Busnes Cymru fel y cytunwyd arno, ac ar y cyd ag ymgyrchoedd a gweithgareddau hyrwyddo a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r rôl yn cysylltu â Rheolwyr Gweithredol ESU i ddarparu swyddogaeth farchnata effeithiol sy'n gyrru ac yn ymgysylltu â grŵp cleientiaid amrywiol i gefnogi'r timau cyflenwi i gyflawni amcanion a thargedau.
Mae rheoli perthynas effeithiol yn allweddol i lwyddiant y rôl hon. Rhaid i'r Cydlynydd Marchnata sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol a gweithio ar y cyd â Thîm Rheoli Gweithredol ESU, Llywodraeth Cymru, ein partneriaid cyflenwi, a'r holl randdeiliaid eraill.
Mae'r uchod yn ddiffiniad eang o gyfrifoldebau’r swydd ac nid yw’n cynnwys pob agwedd ar y rôl. Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gwaith yn cael eu pennu gan ofynion y busnes.