Swydd:
Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau
Cyflog:
£33,001.64 - £38,784.49
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
( 12 Mis )
Cleient:
Aberystwyth University
Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau
Marchnata Byd-eang a Denu Myfyrwyr
36.5 awr yr wythnos
Cyfnod penodol 12 mis
Gradd 6 : £33,001.64 - £38,784.49 y flwyddyn
Y swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â'n tîm Marchnata Trosi Ceisiadau. Bydd y Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu a chyflawni ymgyrchoedd marchnata sy’n ymwneud â throsi ac ysgoloriaethau ac sy'n cynorthwyo darpar fyfyrwyr trwy gydol eu taith o’r cyfnod ymgeisio hyd at gofrestru. Gan weithio o fewn y tîm Marchnata Trosi Ceisiadau, sy'n gyfrifol am feithrin ymgeiswyr trwy gyfathrebu â hwy’n bersonol ar draws sawl platfform, bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn cyfrannu at ystod o brosiectau ar draws sianeli marchnata digidol a thraddodiadol. Mae'r rôl yn cynnal y broses o ddenu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar draws marchnadoedd y DU ac yn rhyngwladol, gan helpu i ddarparu gohebiaeth ddiddorol, amserol ac effeithiol sy'n annog myfyrwyr i gofrestru.
Gall y swydd hon fod yn swydd gweithio o bell – gallwch ddewis gweithio o bell yn gyfan gwbl (gallwch hefyd ddewis gweithio o'r swyddfa neu weithio’n hybrid). Noder y bydd gofyn i ddeiliad y swydd fynd i ddigwyddiadau Prifysgol Aberystwyth a chyfarfodydd staff ar y campws yn achlysurol (e.e. Digwyddiadau i Ymgeiswyr, Clirio).
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Gallai'r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a'i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.
- Helpu i ddatblygu ac arwain cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd allweddol trosi ceisiadau, i gynulleidfaoedd israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn rhyngwladol
- Arwain y gwaith o gyflawni ymgyrchoedd a phrosiectau trosi ceisiadau gan ddefnyddio cyllideb benodol ac i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Marchnata Trosi Ceisiadau, gan roi adroddiadau am gynnydd yr ymgyrchoedd i'r Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau yn rheolaidd
- Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrchoedd, gan gynhyrchu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer y Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau a'r Pennaeth Marchnata Trosi Ceisiadau ar ddiwedd pob ymgyrch
- Datblygu ymgyrchoedd creadigol, arloesol a chystadleuol i drosi ceisiadau, gan gyfuno cyfryngau marchnata digidol a thraddodiadol i helpu’r Brifysgol greu argraff drawiadol yn y farchnad Addysg Uwch er mwyn denu cynifer o fyfyrwyr â phosibl a sicrhau’r gyfran fwyaf bosibl o’r farchnad
- Datblygu perthynas gref gyda staff ledled adrannau academaidd ac adrannau gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol
- Datblygu a rheoli cysylltiadau â chwmnïau trydydd parti (megis Gecko, The Student Room, Unibuddy)
- Datblygu a chyflwyno gweithgareddau cyswllt ar-lein ar gyfer ymgeiswyr sy'n bodloni dangosyddion perfformiad allweddol
- Ysgrifennu cynnwys ar gyfer deunyddiau marchnata a goruchwylio’r gwaith o’u cynhyrchu
- Ymchwilio, ysgrifennu a golygu deunyddiau ar draws cyfryngau marchnata priodol (gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, a llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo gwaith y Brifysgol i gynulleidfaoedd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
- Arwain ar weithgareddau hanfodol Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydledig, gan gynnwys adrodd, dadansoddi data arferol, diweddaru templedi e-bost a chreu teithiau cwsmeriaid
- Sicrhau bod brand a chanllawiau arddull y Brifysgol yn cael eu hyrwyddo’n gyson ar draws yr holl ddeunyddiau marchnata
- Cynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiadau gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr, Diwrnodau Agored, Cynadleddau UCAS
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd
- Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, a deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd
- Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnyddio Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt
- Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn unol â chyfarwyddiadau, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n gymesur â'r rôl, fel y'u pennir i chi gan y rheolwr llinell.
- Dangos hyblygrwydd trwy gynorthwyo cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.
- Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn datblygu eich hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
- Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion a chyfranogiad cyfrifol.
Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon.
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau:
Hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfwerth.
- Profiad o weithio mewn rôl marchnata a/neu gyfathrebu, gyda phrofiad ar draws y cymysgedd marchnata llawn.
- Dealltwriaeth ragorol o ystod o sianeli marchnata a sut y gellir eu defnyddio'n effeithiol i gyflawni amcanion ymgyrchoedd.
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau CRM a marchnata e-bost i gefnogi gweithgarwch marchnata ac ymgysylltu â chwsmeriaid.
- Profiad o reoli nifer o ymgyrchoedd marchnata ar yr un pryd yn llwyddiannus a chyflawni amcanion ymgyrchoedd.
- Profiad o ddefnyddio mewnwelediadau a data i lywio cynllunio ymgyrchoedd a gwneud penderfyniadau.
- Profiad o gynhyrchu adroddiadau dadansoddi ymgyrchoedd a gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer gweithgarwch neu ymgyrchoedd yn y dyfodol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector addysg uwch.
- Gwybodaeth ragorol o becynnau TG safonol a'r gallu i addasu i ddefnyddio ystod o systemau.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
- Sgiliau rheoli prosiect rhagorol.
- Sgiliau rheoli cyllideb.
- Sgiliau cydweithio a datrys problemau rhagorol, a'r gallu i weithio ar amrywiaeth o brosiectau ar draws timau.
- Parodrwydd a gallu i weithio'n hyblyg: bydd angen gweithio rhai nosweithiau a phenwythnosau.
- Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ar Lefel C1*.
Dymunol
- Cymhwyster proffesiynol ym maes Marchnata neu Gysylltiadau Cyhoeddus (PR).
- Profiad o weithio mewn amgylchedd addysg uwch.
- Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ar Lefel C2*.
Sut i wneud cais
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Rhaid defnyddio jobs.aber.ac.uk i gyflwyno cais am y swydd hon. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio’n hyblyg
- Gweithio hybrid
- 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
- Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
- Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.
Parhewch i ddarllen
Yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi gweithio hybrid, gan ganiatáu cyfuniad o weithio yn y swyddfa ac o bell ar gyfer rolau addas er mwyn gwella hyblygrwydd a chynhyrchiant. Mae disgrifiadau swydd fel arfer yn nodi'r prif leoliad gwaith ynghyd â chyfleoedd ar gyfer gweithio'n hyblyg, o bell, neu o'r cartref, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth a chymeradwyaeth y rheolwr.
Croesawn ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys y rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr anabl, ac ymgeiswyr benywaidd.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac yn ymrwymedig i Gyfle Cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i'r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu'n Saesneg, a chaiff unrhyw gais a gyflwynir ei drin yn gyfartal.
Rydym yn cydnabod y gall ymgeiswyr ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial (AI) i gefnogi eu cais. Fodd bynnag, disgwyliwn i geisiadau gael eu hysgrifennu gan yr ymgeisydd ac i adlewyrchu'n gywir eu profiad, eu sgiliau a'u safbwyntiau eu hunain. Mae dilysrwydd ac onestrwydd yn hanfodol i'n proses recriwtio.
Fisa Cyflogaeth:
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).