A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau / Swyddle
Swydd:
Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau
Lleoliad:
Aberystwyth
Cyflog:
£33,001.64 - £38,784.49
Cyfeirnod:
6264
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 12 Mis )
Cleient:
Aberystwyth University
Dyddiad Cau:
16-08-2026

Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau


Marchnata Byd-eang a Denu Myfyrwyr

36.5 awr yr wythnos 
Cyfnod penodol 12 mis
Gradd 6 : £33,001.64 - £38,784.49 y flwyddyn

 

Y swydd

 

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â'n tîm Marchnata Trosi Ceisiadau.  Bydd y Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu a chyflawni ymgyrchoedd marchnata sy’n ymwneud â throsi ac ysgoloriaethau ac sy'n cynorthwyo darpar fyfyrwyr trwy gydol eu taith o’r cyfnod ymgeisio hyd at gofrestru.  Gan weithio o fewn y tîm Marchnata Trosi Ceisiadau, sy'n gyfrifol am feithrin ymgeiswyr trwy gyfathrebu â hwy’n bersonol ar draws sawl platfform, bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn cyfrannu at ystod o brosiectau ar draws sianeli marchnata digidol a thraddodiadol.  Mae'r rôl yn cynnal y broses o ddenu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar draws marchnadoedd y DU ac yn rhyngwladol, gan helpu i ddarparu gohebiaeth ddiddorol, amserol ac effeithiol sy'n annog myfyrwyr i gofrestru. 

 

Gall y swydd hon fod yn swydd gweithio o bell – gallwch ddewis gweithio o  bell yn gyfan gwbl (gallwch hefyd ddewis gweithio o'r swyddfa neu weithio’n hybrid).  Noder y bydd gofyn i ddeiliad y swydd fynd i ddigwyddiadau Prifysgol Aberystwyth a chyfarfodydd staff ar y campws yn achlysurol (e.e. Digwyddiadau i Ymgeiswyr, Clirio). 

 

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau. 

 

Beth fyddwch chi’n ei wneud

 

Gallai'r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a'i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.

 

  • Helpu i ddatblygu ac arwain cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd allweddol trosi ceisiadau, i gynulleidfaoedd israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn rhyngwladol
  • Arwain y gwaith o gyflawni ymgyrchoedd a phrosiectau trosi ceisiadau gan ddefnyddio cyllideb benodol ac i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Marchnata Trosi Ceisiadau, gan roi adroddiadau am gynnydd yr ymgyrchoedd i'r Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau yn rheolaidd 
  • Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrchoedd, gan gynhyrchu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer y Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau a'r Pennaeth Marchnata Trosi Ceisiadau ar ddiwedd pob ymgyrch
  • Datblygu ymgyrchoedd creadigol, arloesol a chystadleuol i drosi ceisiadau, gan gyfuno cyfryngau marchnata digidol a thraddodiadol i helpu’r Brifysgol greu argraff drawiadol yn y farchnad Addysg Uwch er mwyn denu cynifer o fyfyrwyr â phosibl a sicrhau’r gyfran fwyaf bosibl o’r farchnad 
  • Datblygu perthynas gref gyda staff ledled adrannau academaidd ac adrannau gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol
  • Datblygu a rheoli cysylltiadau â chwmnïau trydydd parti (megis Gecko, The Student Room, Unibuddy)
  • Datblygu a chyflwyno gweithgareddau cyswllt ar-lein ar gyfer ymgeiswyr sy'n bodloni dangosyddion perfformiad allweddol
  • Ysgrifennu cynnwys ar gyfer deunyddiau marchnata a goruchwylio’r gwaith o’u cynhyrchu
  • Ymchwilio, ysgrifennu a golygu deunyddiau ar draws cyfryngau marchnata priodol (gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, a llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo gwaith y Brifysgol i gynulleidfaoedd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Arwain ar weithgareddau hanfodol Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydledig, gan gynnwys adrodd, dadansoddi data arferol, diweddaru templedi e-bost a chreu teithiau cwsmeriaid
  • Sicrhau bod brand a chanllawiau arddull y Brifysgol yn cael eu hyrwyddo’n gyson ar draws yr holl ddeunyddiau marchnata
  • Cynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiadau gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr, Diwrnodau Agored, Cynadleddau UCAS
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.  
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd 
  • Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, a deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd
  • Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnyddio Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt
  • Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn unol â chyfarwyddiadau, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n gymesur â'r rôl, fel y'u pennir i chi gan y rheolwr llinell. 
  • Dangos hyblygrwydd trwy gynorthwyo cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau. 
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith. 
  • Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn datblygu eich hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.  
  • Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth.   Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion a chyfranogiad cyfrifol.    

Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon.

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau:

 

Hanfodol

 

  1. Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfwerth.
  2. Profiad o weithio mewn rôl marchnata a/neu gyfathrebu, gyda phrofiad ar draws y cymysgedd marchnata llawn.
  3. Dealltwriaeth ragorol o ystod o sianeli marchnata a sut y gellir eu defnyddio'n effeithiol i gyflawni amcanion ymgyrchoedd.
  4. Profiad o ddefnyddio llwyfannau CRM a marchnata e-bost i gefnogi gweithgarwch marchnata ac ymgysylltu â chwsmeriaid.
  5. Profiad o reoli nifer o ymgyrchoedd marchnata ar yr un pryd yn llwyddiannus a chyflawni amcanion ymgyrchoedd.
  6. Profiad o ddefnyddio mewnwelediadau a data i lywio cynllunio ymgyrchoedd a gwneud penderfyniadau.
  7. Profiad o gynhyrchu adroddiadau dadansoddi ymgyrchoedd a gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer gweithgarwch neu ymgyrchoedd yn y dyfodol.
  8. Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector addysg uwch.
  9. Gwybodaeth ragorol o becynnau TG safonol a'r gallu i addasu i ddefnyddio ystod o systemau.
  10. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
  11. Sgiliau rheoli prosiect rhagorol.
  12. Sgiliau rheoli cyllideb.
  13. Sgiliau cydweithio a datrys problemau rhagorol, a'r gallu i weithio ar amrywiaeth o brosiectau ar draws timau.
  14. Parodrwydd a gallu i weithio'n hyblyg: bydd angen gweithio rhai nosweithiau a phenwythnosau.
  15. Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ar Lefel C1*.

 

Dymunol

 

  1. Cymhwyster proffesiynol ym maes Marchnata neu Gysylltiadau Cyhoeddus (PR).
  2. Profiad o weithio mewn amgylchedd addysg uwch.
  3. Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ar Lefel C2*.

 

Sut i wneud cais

 

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

 

Rhaid defnyddio jobs.aber.ac.uk i gyflwyno cais am y swydd hon. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

 

Buddion

 

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • Gweithio hybrid
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.

 

Parhewch i ddarllen

 

Yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi gweithio hybrid, gan ganiatáu cyfuniad o weithio yn y swyddfa ac o bell ar gyfer rolau addas er mwyn gwella hyblygrwydd a chynhyrchiant. Mae disgrifiadau swydd fel arfer yn nodi'r prif leoliad gwaith ynghyd â chyfleoedd ar gyfer gweithio'n hyblyg, o bell, neu o'r cartref, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth a chymeradwyaeth y rheolwr.

 

Croesawn ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys y rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr anabl, ac ymgeiswyr benywaidd.

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac yn ymrwymedig i Gyfle Cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i'r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu'n Saesneg, a chaiff unrhyw gais a gyflwynir ei drin yn gyfartal.

 

Rydym yn cydnabod y gall ymgeiswyr ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial (AI) i gefnogi eu cais. Fodd bynnag, disgwyliwn i geisiadau gael eu hysgrifennu gan yr ymgeisydd ac i adlewyrchu'n gywir eu profiad, eu sgiliau a'u safbwyntiau eu hunain. Mae dilysrwydd ac onestrwydd yn hanfodol i'n proses recriwtio.

 

Fisa Cyflogaeth:
 

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).