A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata / Swyddle
Swydd:
Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata
Lleoliad:
Aberystwyth, Hybrid
Cyflog:
£33,001.64 - £38,784.49
Cyfeirnod:
GSA269222A
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 5
Math o Swydd:
Parhaol ( Gradd 6, Llawn Amser (36.5 awr) )
Cleient:
Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University
Dyddiad Cau:
18-10-2026

Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata

(Marchnata a Denu Myfyrwyr)
36.5 awr yr wythnos
Gradd 6 (£33,001.64 - £38,784.49) y flwyddyn 


Y swydd

Mae'r Tîm Ymgyrchoedd Marchnata yn cael ei arwain gan y Pennaeth Marchnata a Denu Myfyrwyr. Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata yn atebol i'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata a bydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata sy'n greiddiol i strategaeth farchnata a denu myfyrwyr y Brifysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gan ddefnyddio cyfryngau digidol a thraddodiadol.

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno defnyddio patrymau gweithio cymysg, gan dreulio rhywfaint o amser yn gweithio gartref a rhywfaint o amser yn y swyddfa. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus fynd i Ddigwyddiadau Prifysgol Aberystwyth ar y campws (Diwrnodau Agored, Digwyddiadau i Ymgeiswyr, Teithiau Campws, Canolfan Alwadau Clirio) ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn.

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.


Yr hyn y byddwch yn ei wneud

Gallai'r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a'i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.

•    Gweithio gyda'r Pennaeth Marchnata a Denu Myfyrwyr a'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd allweddol i ddenu myfyrwyr ar draws pob marchnad.
•    Arwain ar y gwaith o gyflawni ymgyrchoedd a phrosiectau, gan gynnwys bod yn rhan o'r cynllunio, creu asedau, llunio negeseuon.
•    Olrhain, monitro a dadansoddi hynt ac effeithiolrwydd ymgyrchoedd – llunio adroddiadau (gan gynnwys gwybodaeth gyllidebol ac olrhain dangosyddion perfformiad allweddol) gan gyflwyno argymhellion.
•    Cyfrannu syniadau arloesol a chreadigol ar gyfer ymgyrchoedd, negeseuon a deunyddiau marchnata sy'n tynnu sylw darpar fyfyrwyr.
•    Gweithio gan ddefnyddio cyfryngau marchnata digidol a thraddodiadol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, y wefan, System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM), cyhoeddiadau ar-lein a phrintiedig.
•    Datblygu a rheoli cysylltiadau gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys partneriaid allanol megis asiantaethau archebu creadigol a’r cyfryngau, UCAS, IDP a phartneriaid addysgol eraill, a chydweithwyr mewnol ar draws adrannau.
•    Ymgymryd ag ymchwil i'r farchnad i gadw llygad ar ddiddordebau darpar fyfyrwyr, tueddiadau'r farchnad, perfformiad cystadleuwyr ac ati. Defnyddio'r ymchwil hon wrth gynllunio ymgyrchoedd a chreu syniadau marchnata.
•    Sicrhau bod brand y Brifysgol yn gyson ar draws yr holl ddeunyddiau marchnata.
•    O bryd i’w gilydd, cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol a mewnol gan gynnwys diwrnodau agored, arddangosfeydd UCAS, Eisteddfod Genedlaethol ac ati. Gallai hyn gynnwys teithio cenedlaethol a rhyngwladol, ac aros dros nos.
•    Bod yn aelod brwdfrydig ac ymroddedig o'r tîm, yn barod i gefnogi cydweithwyr ar draws yr adran yn ystod cyfnodau brig, gan gynnwys ymgymryd â gwaith gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd.
•    Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.
•    Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.
•    Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
•    Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion a chyfranogiad cyfrifol.
Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl
hon.


Pwy ydych chi - Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau:

Hanfodol:

1.    Addysg i lefel gradd neu brofiad cyfwerth.

2.    Gallu dangos bod gennych brofiad o weithio mewn rôl marchnata/cyfathrebu ar draws y cyfryngau traddodiadol a digidol.

3.    Dealltwriaeth o systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a sut i’w defnyddio wrth arwain y gwaith o feithrin a throsi.

4.    Profiad o reoli nifer o ymgyrchoedd marchnata neu brosiectau yn llwyddiannus ar yr un pryd.

5.    Profiad o gynnal a defnyddio ymchwil marchnad i lywio’r cynllun ar gyfer ymgyrchu neu farchnata.

6.    Profiad o olrhain, dadansoddi ac adrodd ar berfformiad y cyfryngau marchnata, gan gynnwys gwneud argymhellion ar welliannau yn y dyfodol.

7.    Dealltwriaeth o bwysigrwydd hunaniaeth, cysondeb a rheoli brand.

8.    Parodrwydd a’r gallu i weithio'n hyblyg: efallai y bydd angen i chi deithio'n genedlaethol, gan weithio oddi cartref. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.

9.    Dawn gyfathrebu ardderchog, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn Gymraeg a Saesneg. Dylai’r gallu yn y Gymraeg fod ar lefel C1.


Manteisiol

1.    Cymhwyster Proffesiynol sy'n gysylltiedig â Marchnata neu Gyfathrebu.

2.    Profiad o weithio yn y sector Addysg Uwch.

3.    Profiad o weithio gyda system Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid (CRM).

4.    Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C2.*

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd sydd â threfniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd neu yn ystod y tymor yn unig.
 
Rhaid cyflwyno ceisiadau am y swydd hon trwy jobs.aber.ac.uk (Cliciwch "CEISIO NAWR" i gael eich ailgyfeirio). Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.


Buddion

•    Polisi gweithio’n hyblyg
•    Patrymau Gweithio Cymysg
•    36.5 awr yr wythnos i swyddi amser llawn
•    Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
•    Ymrwymiad i Ddatblygu Proffesiynol
•    Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
•    Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
•    Cyfle i ddysgu'r Gymraeg am ddim
•    Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
•    Cyfnod Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
•    Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon, y mannau arlwyo a’r siopau ar y campws.


Mwy o wybodaeth

Yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi patrymau gweithio cymysg, sy’n caniatáu cymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio o bell ar gyfer rolau addas, er mwyn galluogi gwaith mwy hyblyg a chynhyrchiol. Mae disgrifiadau swydd fel arfer yn rhoi manylion y prif leoliad gwaith yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gweithio’n hyblyg, o bell neu gartref, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth a chymeradwyaeth y rheolwr.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned yn enwedig y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ymgeiswyr ag anableddau, a menywod.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac yn ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni, ac rydym yn annog ac yn cynorthwyo ein staff i ddysgu Cymraeg ac i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydym yn cydnabod y gallai ymgeiswyr ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial (DA) i gefnogi eu cais. Serch hynny, disgwyliwn mai’r ymgeiswyr fydd yn ysgrifennu’r ceisiadau a’u bod yn adlewyrchu eu profiad, eu sgiliau a'u safbwyntiau eu hunain yn gywir. Mae dilysrwydd a gonestrwydd yn hanfodol i'n proses recriwtio.
 
Fisa Cyflogaeth:

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw’r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus.