Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Newyddiadurwr (Rhaglenni Cymraeg)
Rydym yn chwilio am newyddiadurwr uchelgeisiol i ymuno a’r tîm rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru Wales.
Mae’r rôl yn gyfle gwych i newyddiadurwr weithio ar draws ein prif frandiau materion cyfoes (cyfres wleidyddol Y Byd Yn Ei Le a Y Byd ar Bedwar).
Gyda chysylltiadau ar draws Cymru, bydd gennych ddealltwriaeth a phrofiad o weithio ar gynhyrchiadau newyddion neu faterion cyfoes. Bydd hefyd gennych ddealltwriaeth wych o wleidyddiaeth a thirwedd gwleidyddol Cymru.
Byddwch yn rhan hanfodol o'r tîm fydd yn gweithio ar gynnwys ein cyfres wleidyddol 'Y Byd yn ei Le' - gan ymchwilio, dod o hyd i gyfranwyr, cydlynu gyda’r pleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig a’n cynhyrchu cynnwys i’r gyfres.
Bydd hefyd disgwyl i chi gefnogi a gweithio ar ymchwiliadau a chynnwys materion cyfoes ar gyfer cyfres ‘Y Byd ar Bedwar’ pan fod angen.
Bydd gennych brofiad a dealltwriaeth o anghenion cydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu a’r gallu i weithio dan bwysau o dan amgylchiadau heriol.
Sgiliau allweddol
Gofynion eraill y rôl
Mae amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni eisiau adlewyrchu ein cynulleidfa – ar y sgrin ac yn ein gweithle. Mae ITV ar gyfer pawb, ac rydyn ni’n annog pobl Fyddar, pobl anabl, pobl niwroamrywiol a Phobl o Liw i wneud cais am y swydd yma.
Mae’r ystafell newyddion yn lle prysur, gyda chynyrchiadau newyddion byw, sy’n aml yn gofyn i gydweithwyr wneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Mae angen pobl sydd yn gallu cymryd camau ar eu liwt eu hunain, ac yn enwedig ar gyfer swyddi golygyddol, pobl sy’n gwybod pa wybodaeth fydd ei hangen a sut i fynd ati i’w chwilio.
Mae’n rhaid i ni brofi’r sgiliau yma yn ystod y cyfweliad er mwyn gweld sut fydd ymgeiswyr yn ymateb pan maen nhw’n gweithio mewn sefyllfa dan bwysau. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r swydd. Byddwn ni bob amser yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gyfweld – er enghraifft, rhannu prif themâu pan fydd hynny’n cael ei ofyn mewn perthynas â chyflwr niwroamrywiol – ond eto gan sicrhau ein bod ni’n gallu profi gallu ymgeisydd i weithio’n effeithiol yn yr ystafell newyddion.
Yn ITV, rydyn ni’n gwerthfawrogi’r defnydd o dechnoleg ar gyfer ymchwil wrth wneud cais. Rydyn ni’n deall bod AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol. Ond, mae gwirionedd a chywirdeb yn bwysig i ni, ac rydyn ni’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu syniadau a’u profiadau eu hunain.
Gall ceisiadau sy’n ymddangos eu bod wedi’u copïo’n uniongyrchol o gynnwys a gynhyrchwyd gan AI gael eu gwrthod. Rydyn ni’n credu mewn proses asesu deg a gonest – ac mae eich unigoliaeth yn allweddol i sefyll allan yn ein dewis.
I wneud cais, anfonwch eich CV, llythyr cais yn ogystal â chynnwys enghreifftiau o’ch gwaith yn eich cais.