Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rydym yn edrych i benodi Gweithiwr Cymorth Diogelwch yn y Cartref i ymuno â'n tîm Atal yn ardal y Dwyrain (Sir y Fflint a Wrecsam) a'r Gorllewin (Ynys Môn/Gogledd Gwynedd).
Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub ddyletswydd o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i ddarparu gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac anogaeth i atal tanau a marwolaethau ac anafiadau cysylltiedig. Gan weithio gyda chymunedau Gogledd Cymru, mae Gweithwyr Cymorth Diogelwch yn y Cartref yn darparu cyngor ac arweiniad diogelwch tân, yn ogystal ag ymyriadau diogelwch tân addas yng nghartrefi grwpiau targed a nodwyd i gyfrannu at eu hiechyd, diogelwch a lles. O fewn eu maes cyfrifoldeb, byddant hefyd yn cefnogi'n rhagweithiol y gwaith o gyflwyno gweithgareddau ymwybyddiaeth diogelwch tân ac ymgyrchoedd diogelwch.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, gyda'r gallu i gyfathrebu 'n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (i lefel 4) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gyda ffordd agored a hygyrch, bydd ymgeiswyr yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn cael eu cymell i helpu eraill, yn enwedig pobl agored i niwed o fewn y grŵp targed a nodwyd, i gadw'n ddiogel ac yn iach mewn ffordd barchus a chyfrinachol.
Dylai ymgeiswyr nodi y gallai fod gofyniad i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol ar achlysuron anaml ar gytundeb cydfuddiannol.
Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwell a geirdaon boddhaol. Am ragor o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost i: recriwtio@tangogleddcymru.llyw.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 13 Mawrth, 2026 gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yr wythnos yn cychwyn 6 Ebrill 2026.
Bydd y dyddiad cau yn cael ei gadw'n llym ac ni fydd unrhyw eithriadau yn berthnasol.