Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Fel ein Pennaeth Gwasanaethau Technegol, byddwch yn arwain ar ein gwasanaethau darlledu a TG ac yn gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygu a chyflawni ein strategaeth dechnoleg ar gyfer gwasanaethau darlledu a chorfforaethol er mwyn cefnogi ein cenhadaeth a'n twf yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio gyda'n timau technegol a'n partneriaid i ysgogi arloesedd a thrawsnewid a sicrhau seilwaith technoleg cadarn a diogel, a sicrhau bod atebion technegol yn cyd-fynd â nodau busnes. Bydd hyn yn cynnwys rheoli partneriaethau darlledu a thechnoleg allweddol a'n helpu i ddefnyddio technoleg i wasanaethu'r sefydliad a'n cynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd a diddorol.
Ymrwymiad i'r Gymraeg
Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ond byddent yn fanteisiol. Rydym yn falch o fod yn ddarlledwr Cymraeg ac rydym yn disgwyl i holl aelodau'r tîm werthfawrogi a pharchu'r iaith a'r diwylliant.
Manylion Eraill
Lleoliad: Eich lleoliad gwaith arferol fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Mae swyddfeydd S4C yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid. Gofynnir i chi fynd i swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i'w gilydd.
Cyflog: £90,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau swyddfa, rhai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ogystal â'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. (Sylwer y bydd y gwyliau blynyddol yn pro rata os ydych chi'n gweithio'n rhan-amser).
Pensiwn: Mae gan staff cyflogedig hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol sy'n cael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd. Os ydych chi'n aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Bydd disgwyl i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar Ddydd Mawrth 5 Mai 2026 i Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: I’w gadarnhau
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.