Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
CEFNDIR CLWB PÊL-DROED CAERNARFON
Mae gwreiddiau Clwb Pêl-droed Caernarfon yn yn y gymuned ac mae’n glwb hanesyddol o fewn pêl-droed domestig Cymru. Mae naws teuluol i’r clwb ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu chwaraewyr yr academi, hyrwyddo cynhwysiant a chreu awyrgylch croesawgar i chwaraewyr, cefnogwyr ac ymwelwyr o bob oedran. Mae tîm dynion Clwb Pêl-droed Caernarfon yn aelodau o gynghrair y Cymru Premier, gan ymddangos yn ddiweddar yn Rownd Ragbrofol Gyntaf yr UEFA Conference League, lle cafwyd buddugoliaeth enwog. Mae newid ar y gorwel, ac rydym yn gobeithio penodi Rheolwr Cyffredinol dynamig a phrofiadol i sicrhau bod y clwb yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus oddi ar y cae o safbwynt masnachol.
Crynodeb o’r Rôl
Teitl Swydd: Rheolwr Cyffredinol
Adrodd i: Pwyllgor y Clwb Lleoliad: Yr Oval, Caernarfon
Cyflog: £27,000
Fel Rheolwr Cyffredinol Clwb Pêl-droed Caernarfon, byddwch chi’n chwarae rôl ganolog wrth lywio gweithredoedd, twf a llwyddiant cyffredinol y clwb. Byddwch chi’n gyfrifol am oruchwylio gweithredoedd y clwb, yn ogystal â’r gwaith gweinyddol a’r agweddau masnachol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddatblygu strategaeth fasnachol, cynyddu nifer y cytundebau â noddwyr, datblygu strategaeth y clwb o ran marchnata a brandio yn ogystal â nodi cyfleoedd newydd o ran masnach a phartneriaethau.
CYFRIFOLDEBAU AlLWEDDOL
Rheoli Gweithredol: Goruchwylio gweithredoedd y clwb o ddydd-i ddydd, gan gynnwys materion cyllid, gweinyddu, ac adnoddau cyffredinol.
Cydymffurfiaeth a Llywodraethiant: Sicrhau bod y clwb yn cydymffurfio â’r holl reoliadau perthnasol, gan gynnwys y rhai gan gyrff llywodraethu megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Rheoli Cyfleusterau: Goruchwylio gwaith datblygu a chynnal a chadw cyfleusterau’r clwb, gan gynnwys Llogi Cae 3G.
Datblygiad Masnachol: Cyhyrchu incwm i’r clwb. Gall hyn gynnwys codi arian, gwneud ceisiadau grant, yn ogystal â chyflwyno noddwyr a phartneriaethau masnachol newydd ar sail targedau a gytunwyd.
Cyfrifoldebau Ychwanegol
Nodi a sicrhau cyfleoedd newydd ar gyfer noddwyr a phartneriaid.
Cefnogaeth a gweithio ar gytundebau cyfredol gyda phartneriaid a chontractau masnachol.
Cefnogaeth ymgyrchoedd marchnata i wella presenoldeb brand y clwb.
Cydweithio â thîm y cyfryngau i hyrwyddo gweithgareddau, gemau, a digwyddiadau’r clwb.
Cefnogaeth holl weithgareddau masnachol ar ddiwrnod gêm, gan gynnwys lletygarwch, tocynnau, ac adwerthiant.
Gwella’r profiad i gefnogwyr a phartneriaid corfforaethol ar ddiwrnod gêm er mwyn hybu niferoedd yr ymwelwyr a’r ymgysylltiad â’r gemau.
Canllaw yn unig i brif gyfrifoldebau’r rôl yw’r disgrifiad swydd hwn. Nid ei fwriad yw cyfyngu’r gofynion ar unrhyw unigolyn o ran cyflawni dyletswyddau eraill yn ôl y gofyn gan y cwmni.
SGILIAU A PHROFIAD
Profiad o arwain mewn rôl yn rhan o glwb, sefydliad chwaraeon a/neu amgylchedd corfforaethol.
Profiad o negodi masnachol a rheoli contractau.
Profiad o ddatblygu a chyflawni strategaethau marchnata.
Sgiliau rheoli cyllid cadarn a phrofiad o gyllidebu.
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
Hyddysg wrth ddefnyddio offer a llwyfannau marchnata digidol.
Gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd cryf ag ystod eang o randdeiliaid allweddol.
Trwydded yrru y DU heb droseddau.
Sut i Ymgeisio
Anfonwch y dogfennau canlynol at Paul Evans (caernarfontownfc@gmail.com)
CV cyfredol sy’n nodi hanes eich gyrfa, eich profiadau ac unrhyw lwyddiannau allweddol yn ogystal â dau eirda.
Datganiad ategol yn amlinellu pam eich bod yn addas ar gyfer y rôl a sut byddai eich arbenigedd yn werthfawr i Glwb Pêl-droed Caernarfon.
Dyddiad cau: 5pm dydd Gwener, 22 Mai 2026