A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Tîm Cyntaf / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Tîm Cyntaf
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Gwirfoddol
Cyfeirnod:
NawddClwbCymric4626
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Clwb Cymric
Dyddiad Cau:
12-06-2026

Rheolwr newydd – Tîm Cyntaf

Mae’r clwb ar hyn o bryd yn chwilio am reolwr newydd i arwain y tîm cyntaf, mewn cyfnod cyffrous o ddatblygiad a chynnydd.

Yn dilyn tymor llwyddiannus, gyda’r clwb yn gorffen yn drydydd yng nghynghrair SWPL tymor 25/26 (haen 4), mae’r rôl yn cynnig cyfle i adeiladu ar sylfaen gryf a symud y clwb ymlaen ymhellach.

Bydd y swydd yn apelio at unigolyn uchelgeisiol sydd am weithio gyda charfan ifanc a chryf, ac sy’n awyddus i ddatblygu o fewn amgylchedd cefnogol.

Y cyfle

  • Gweithio gyda charfan ifanc a chryf
  • Ymuno â chlwb sydd â thrwydded haen 3
  • Cydweithio â hyfforddwyr profiadol y clwb, gyda’r cyfle i ddod â’ch tîm hyfforddi eich hun
  • Bod yn rhan o glwb sydd â dros 850 o chwaraewyr wedi arwyddo ar draws ei dimau, gan gynnwys tîm ieuenctid ac ail dîm dynion
  • Hyfforddi a pharatoi’r tîm ar gyfer gemau wythnosol, gyda sesiwn ymarfer wythnosol
  • Chwarae gemau cartref ar gae o safon uchel

Cymwysterau a chefnogaeth

  • Mae tystysgrif ‘C’ UEFA yn ddymunol
  • Mae’r clwb yn barod i ariannu tystysgrifau hyfforddi FAW/UEFA

Os oes diddordeb, neu os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â:
clwbcymric@hotmail.com erbyn 12fed Mehefin