A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arweinydd Gweithredol Systemau Cyllid a Llywodraethiant / Swyddle
Swydd:
Arweinydd Gweithredol Systemau Cyllid a Llywodraethiant
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£50,000
Cyfeirnod:
REC01490
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
23-12-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd yr Arweinydd Gweithredol Systemau Cyllid a Llywodraethiant yn gweithredu fel arbenigwr pwnc mewnol ar gyfer Systemau Cynllunio Adnoddau Menter (ERP) Cyllid a Llywodraethiant – gan gynnwys Cyllid a Gweithrediadau Microsoft Dynamics 365 (D365FO) – gyda phrif ffocws ar fodiwlau cyllid. Cenhadaeth y swydd yw cefnogi'r gwaith o wella, ffurfweddu ac optimeiddio ein rhaglenni cyllid D365 yn y tymor hir, gan sicrhau eu bod yn bodloni amcanion ariannol strategol y cwmni.

 

  • Rheoli ac optimeiddio ffurfweddiad modiwlau Cyllid D365 drwy adolygu gosodiadau'r system yn rheolaidd a'u cysoni â gofynion busnes sy'n esblygu i sicrhau cydymffurfiad â safonau cyfrifyddu, ac i gefnogi amcanion ariannol strategol.
  • Cefnogi'r Uwch-arweinydd Gweithredol Systemau Cyllid a Llywodraethiant i gyflawni prosiectau System ERP Cyllid a Llywodraethiant mewnol drwy ddylunio atebion a gweithio gydag adnoddau prosiect i weithredu a phrofi er mwyn sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus ac yn bodoli disgwyliadau a cherrig milltir.
  • Rheoli'r gwaith o ffurfweddu a defnyddio modiwlau Systemau ERP Cyllid a Llywodraethiant drwy reoli’r broses osod ymarferol, profi derbynioldeb i’r defnyddwyr, a chymorth ar ôl mynd yn fyw gan weithio gydag adnoddau cymorth ychwanegol ar gyfer prosiectau yn ôl yr angen i sicrhau bod systemau’n cael eu lansio'n ddidrafferth ac yn llwyddiannus
  • Cydlynu gyda TG a phartneriaid allanol ar ymdrechion gweithredu technegol ac integreiddio drwy weithredu fel y prif bwynt cyswllt i sicrhau bod y system yn gallu rhyngweithredu yn ddi-dor a bod materion technegol yn cael eu datrys yn brydlon.

 

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cyfrifydd CCAB cymwysedig neu brofiad cyfatebol
  • Dealltwriaeth ragorol o ymarferoldeb modiwl Cyllid D365FO a sut mae'n cael ei gymhwyso i brosesau busnes. 
  • Profiad amlwg o ffurfweddu a chefnogi atebion Cyllid D365FO mewn amgylchedd sefydliadol cymhleth. 
  • Lefel uchel o hyfedredd mewn prosesau cyllid, safonau cyfrifyddu, ac ail-lunio prosesau busnes digidol. 
  • Sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf, gyda'r gallu i ddehongli data a darparu gwybodaeth y gellir gweithredu arni. 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.