A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Comisiynydd Ffilm (Rhan-amser) / Swyddle
Swydd:
Comisiynydd Ffilm (Rhan-amser)
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
Dim llai na £70,000
Cyfeirnod:
S4C26732
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 18 awr yr wythnos - Cytundeb 3 blwyddyn )
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
27-07-2026

Comisiynydd Ffilm (Rhan-amser)

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys newydd aml-blatfform. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dynamig, creadigol a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Comisiynwyr.

Trosolwg y Swydd

Dyma swydd newydd gyffrous yn hanes byd ffilm Cymru a fydd yn gyfle unigryw i unigolyn talentog a profiadol helpu siapio y gyfres nesaf o ffilmiau yn yr iaith Gymraeg ar gyfer y sgrin fawr. Fel rhan o’n Strategaeth 2030. A chynllun Sinema Cymru ar y cyd gyda Chymru Creadigol, bwriad S4C yw cynhyrchu ffilm ffuglen yn flynyddol.

Bydd gennych angerdd at y byd ffilm, drama a’r theatr Gymraeg ac  yn unigolyn profiadol ac yn gyfrifol am arwain ar y cynllun i ddatblygu syniadau i fod yn sgriptiau a hefyd cyd-lynu’r gwaith o ymgyfarwyddo rhai o’r cwmnïau ac unigolion llai profiadol gyda’r byd ffilm.  

 Yn sgil galwad am syniadau, bydd y rôl yn arwain ar broses o ddatblygu’r syniadau ar y cyd gyda chynrychiolydd Cymru Creadigol, tra’n adrodd i’r Prif Swyddog Cynnwys. 

Wedi’r datblygu, bydd y comisiynydd yn rhan o’r trafod wrth ystyried pa ffilm i’w chomisiynu, gan fod yn brif ddolen gyswllt gyda’r cwmni cynhyrchu trwy’r broses o ffilmio, cyfleu a dosbarthu’r cynnwys. Bydd y comisiynydd yn cyfrannu at y broses o ddewis sgript i’w chynhyrchu ar gyfer y sgrin.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa)

Cyflog: Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad.  Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn.  Mae croeso i chi gysylltu â thîm Pobl a Diwylliant ar pobl@s4c.cymru am rhagor o fanylion am amodau a thelerau’r swydd.

Cytundeb: 3 blwyddyn yn y lle cyntaf

Oriau gwaith: 18 awr yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf: 3 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:  Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio:  Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig ac yn achlusurol yn rhyngwladol.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu at Adran y Bobl a Diwylliant, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr. Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych ar gael yn ystod mis Awst.  Rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.