A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfarwyddwr Gweithredol / Swyddle
Swydd:
Cyfarwyddwr Gweithredol
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
R000046
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Welsh National Opera
Dyddiad Cau:
23-04-2026

Swydd Ddisgrifiad

 

Ymrwymiad i'r Gymraeg

Mae’r hysbyseb hwn a’r swydd ddisgrifiad llawn ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg fel ei gilydd. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau a chyfranogi mewn cyfweliadau yn y naill iaith neu’r llall. Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd Cymraeg o dan y cynwysyddion uchod.

 

Adeiladu Cwmni Opera’r Dyfodol

Rydym ar foment dyngedfennol yn ein hanes. Cafodd Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru ei eni yn ysbryd democratiaeth wedi’r rhyfel, ac wedi’i yrru gan angerdd cenedlaethol dros gysylltiad dynol drwy gân. Ym mlwyddyn ei 80fed mlwyddiant, rydym yn ymrwymedig i ailddychmygu’r cwmni fel cwmni opera cyfoes sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif, wedi’i wreiddio yng Nghymru ond sy’n rhyngwladol yn ei uchelgais.

Rydym eisiau ailddychmygu’r hyn allai opera fod heddiw, gan sefydlu WNOCC fel grym arloesol, dewr a llawen o fewn ecoleg celfyddydau byw y DU. Rydym am hyrwyddo mwy o amrywiaeth ar ein llwyfannau ac yn ein cynulleidfaoedd a phrofi mai opera yw’r ffurf gelfyddydol ddeinamig ein hamser ni.

Yn y bennod nesaf hon, rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol eithriadol i ymuno â’n tîm gweithredol, gan weithio ochr yn ochr â’n cyd-Gyfarwyddwyr i dyfu ein cynulleidfaoedd, dyfnhau ein perthnasoedd a sicrhau’r adnoddau fydd yn cynnal ein dyfodol.

Gyda’r tîm cywir ochr yn ochr â ni, credwn fod hyn yn bosibl.

Yn gywir,
Eich Opera Cenedlaethol Cymru / Your Welsh National Opera

 

Meini Prawf Hanfodol

  • Profiad arweinyddiaeth hŷn sylweddol ar lefel Cyfarwyddwr o fewn sefydliad celfyddydol neu ddiwylliannol cyfatebol.
  • Hanes profedig yn arwain cynllunio strategol o fewn sefydliad cymhleth.
  • Profiad sylweddol yn goruchwylio rheolaeth ariannol gweithrediad gwerth miliynau o bunnoedd.
  • Rhwydweithiau cryf a dylanwadol ar draws y diwydiannau celfyddydol a chreadigol.
  • Sgiliau rheoli rhanddeiliaid eithriadol, gyda phrofiad o ymgysylltu gyda rhanddeiliaid hŷn mewnol ac allanol, gan gynnwys gwneuthurwyr polisi.
  • Profiad sylweddol o weithio gyda Bwrdd neu gorff llywodraethu mewn lleoliad cyffelyb.
  • Lefelau uchel o uniondeb a thryloywder personol, gydag ymrwymiad eglur i lywodraethu da.
  • Profiad amlwg yn sicrhau cydymffurfiaeth ar draws fframweithiau cyfreithiol a rheolaethol allweddol, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch, HMRC, GDPR, rheoli contractau a risg sefydliadol.
  • Y gallu i adeiladu diwylliant sefydliadol positif, dirprwyo’n gyfrifol, adeiladu a rheoli timau ac ysbrydoli staff i gyrraedd eu potensial.
  • Gwybodaeth am brosesau cynhyrchu theatr a/neu weithrediadau perfformiad byw ar raddfa fawr.

 

Meini Prawf Dymunol

  • Profiad o weithio gydag undebau.
  • Gwybodaeth am Theatr, Opera a Cherddoriaeth Glasurol.
  • Gwybodaeth am arwain mentrau cynaliadwyedd yn y sector celfyddydau, gan gynnwys y Theatre Green Book neu fframweithiau cyfatebol, a’u gweithrediad strategol.
  • Ymrwymiad profedig i fewnosod amrywiaeth, ymdeimlad o berthyn, cynhwysiant a chydraddoldeb o fewn strategaeth sefydliadol, wedi’i alinio gyda chenhadaeth y cwmni i gael gwared ar rwystrau i gymunedau sydd wedi’u hymyleiddio o fewn y sector diwylliant.
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, neu ymrwymiad gweithredol i ddysgu’r iaith fel rhan o dwf proffesiynol ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid.

 

Ein Hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn cydnabod bod pobl dalentog weithiau yn oedi rhag ymgeisio oni bai eu bod yn bodloni pob gofyn. Mae ymchwil yn dangos bod hyn yn arbennig o wir o ran menywod, unigolion LHDTCRhA+, pobl anabl a niwrowahanol, a’r rhai o gefndiroedd dosbarth gweithiol.

Os yw hon yn teimlo fel eich rôl ddelfrydol, hyd yn oed os nad yw eich profiad yn alinio’n berffaith gyda phob un o’r meini prawf, rydym yn eich annog i ymgeisio beth bynnag. Gallai eich safbwynt a’ch profiad fod yn union yr hyn rydym ei angen er mwyn helpu i adeiladu cwmni opera’r dyfodol.

 

Addasiadau Rhesymol

Mae WNOCC wedi ymrwymo i broses recriwtio hygyrch a chynhwysol. Os ydych angen unrhyw addasiadau er mwyn cefnogi eich cais neu eich cyfweliad, dylech e-bostio recruitment@wno.org.uk. Rydym wedi ymrwymo i’ch cefnogi ar bob cam o’r broses.

 

Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS)

Mae WNOCC yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ac sy’n hunan-adnabod fel person o’r mwyafrif byd-eang, person anabl, neu fel unigolyn niwrowahanol.

Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais am ystyriaeth o dan y cynllun drwy e-bostio recruitment@wno.org.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y swydd ddisgrifiad.

 

Ceisiadau Rhyngwladol

Croesewir ymgeiswyr sydd wedi’u lleoli yn y DU neu’n rhyngwladol. Gall WNOCC gefnogi ceisiadau fisa Gweithiwr Medrus ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, yn ddibynnol ar ofynion y Swyddfa Gartref a gallu ariannol. Anogir ymgeiswyr sydd angen nawdd i nodi hyn yn eu cais.

 

Sut i Ymgeisio

Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch y swydd ddisgrifiad llawn os gwelwch yn dda.

Os hoffech sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, angen addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio, neu os nad yw’r ffurflen gais ar-lein yn hygyrch i chi, cysylltwch â: recruitment@wno.org.uk