A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfarwyddwr Gweithredol Cynulleidfaoedd a Datblygu / Swyddle
Swydd:
Cyfarwyddwr Gweithredol Cynulleidfaoedd a Datblygu
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
R000047
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Welsh National Opera
Dyddiad Cau:
23-04-2026

Swydd ddisgrifiad

 

Ymrwymiad i'r Gymraeg

Mae’r hysbyseb hwn a’r swydd ddisgrifiad llawn ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg fel ei gilydd. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau a chyfranogi mewn cyfweliadau yn y naill iaith neu’r llall. Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd Cymraeg o dan y cynwysyddion uchod.

 

Adeiladu Cwmni Opera’r dyfodol

Rydym ar foment dyngedfennol yn ein hanes. Cafodd Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru ei eni yn ysbryd democratiaeth wedi’r rhyfel, ac wedi’i yrru gan angerdd cenedlaethol dros gysylltiad dynol drwy gân. Ym mlwyddyn ei 80fed mlwyddiant, rydym wedi ymrwymo i ailddychmygu’r cwmni fel cwmni opera cyfoes sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif yng Nghymru ond sy’n rhyngwladol yn ei uchelgais.

Rydym eisiau ailddychmygu’r hyn allai opera fod heddiw, gan sefydlu WNOCC fel grym arloesol, dewr a llawen o fewn ecoleg celfyddyd fyw’r DU. Rydym am hyrwyddo mwy o amrywiaeth ar ein llwyfannau ac yn ein cynulleidfaoedd a phrofi mai opera yw’r ffurf gelfyddydol ddeinamig ein hamser ni.

Yn y bennod nesaf yma, rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol Cynulleidfaoedd a Datblygiad eithriadol i ymuno gyda’n tîm gweithredol, gan oruchwylio’r timau datblygu a chodi arian, a’r timau marchnata a chyfathrebu, gan weithio ochr yn ochr â’n cyd Gyfarwyddwyr i dyfu cynulleidfaoedd dyfnhau perthnasoedd, a sicrhau’r adnoddau fydd yn cynnal ein dyfodol.

Gyda’r tîm cywir ochr yn ochr â ni, credwn fod hyn yn bosib.

Yn gywir,
Eich Opera Cenedlaethol Cymru / Your Welsh National Opera

 

Meini Prawf Hanfodol

Arweinyddiaeth a Gweledigaeth Strategol

  • Steil arweinyddiaeth llawn gweledigaeth, arloesi ac entrepreneuriaeth, gyda’r gallu i feithrin, integreiddio ac ysbrydoli timau amlddisgyblaethol.
  • Hanes profedig o ddatblygu a chyflawni strategaethau i’r sefydliad cyfan sy’n tyfu cynulleidfaoedd, cynyddu incwm a chefnogi cynaliadwyedd tymor hir.
  • Hygrededd personol a phroffesiynol sy’n galw am hyder, gyda gwytnwch a stamina profedig i gynnal perfformiad o dan bwysau.
  • Barn strategol gref, gyda hanes profedig o gydweithredu a phrofiad yn dylanwadu ac yn sicrhau ymrwymiad gan dimau mewnol rhanddeiliaid allanol.
  • Creadigol, gydag ymrwymiad i gynhyrchu syniadau ffres, cyfoes a datblygu potensial cydweithwyr, wrth gynnal ffocws cryf ar ddarparu deilliannau ymarferol a nodau y cytunwyd arnynt.

Cynhyrchu Incwm a Rheolaeth Ariannol

  • Profiad o greu strategaethau traws-sefydliadol er mwyn tyfu cynulleidfaoedd a ffynonellau arian.
  • Hanes profedig o gyflawni a mynd y tu hwnt i dargedau refeniw ar draws nifer o wahanol ffynonellau incwm.
  • Gwybodaeth a phrofiad o ddulliau datblygu cynulleidfaoedd a chaffael rhoddion sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
  • Y gallu i arwain esblygiad brand WNOCC a chynhyrchu cynnwys er mwyn adlewyrchu sefydliad celfyddydol cyfoes, deinamig.
  • Trosolwg strategol o berfformiad y swyddfa docynnau, ehangu cynulleidfa a thargedau codi arian, wedi’i gyfuno gyda sgiliau cynllunio ariannol ac adrodd cydnerth.
  • Arweinyddiaeth amlwg mewn strategaeth sy’n cael ei harwain gan ddata, gan ddefnyddio gwybodaeth busnes gyfoes a methodolegau dadansoddi er mwyn gwella golwg graff ar gynulleidfaoedd a rhagweld refeniw.

Arweinyddiaeth a Chydweithredu

  • Profiad amlwg fel arweinydd timau ysbrydoledig, gyda’r gallu i ddatblygu sgiliau a thalent a rheoli perfformiad unigol a thîm yn effeithiol.
  • Ymwybyddiaeth amlwg o ddeinameg cynulleidfa a chwsmer y DU, y dirwedd haelionus a’r fframwaith polisi sy’n dylanwadu ar y celfyddydau perfformio a’r economi greadigol ehangach.
  • Gallu rhagorol i adnabod, adeiladu a meithrin partneriaethau sy’n gwella WNOCC o ran ei genhadaeth a’i werthoedd.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda Rhanddeiliaid

  • Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth GDPR mewn perthynas â data cynulleidfa a gweithgaredd codi arian.
  • Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu rhagorol, gyda phrofiad amlwg yn paratoi a chyflwyno strategaethau a chyflwyniadau i Fyrddau, uwch dimau corfforaethol sy’n cymryd penderfyniadau a swyddogion y llywodraeth.
  • Sgiliau rheoli rhanddeiliaid cryf gyda’r gallu i adeiladu a meithrin perthnasoedd a rhwydweithiau positif, gan gynnwys gydag uwch swyddogion y llywodraeth, rhoddwyr lefel uchel a noddwyr corfforaethol.

 

Meini Prawf Dymunol

  • Profiad fel uwch reolwr o fewn y sector Celfyddydau a Diwylliant.
  • Diddordeb amlwg ym myd opera, y theatr a cherddoriaeth glasurol.
  • Profiad o ddefnyddio Tessitura CRM, neu system CRM cynulleidfa a chodi arian cyfatebol.
  • Gwybodaeth am arwain mentrau cynaliadwyedd yn y sector celfyddydau, gan gynnwys Theatre Green Book neu fframweithiau cyfatebol, a’u gweithrediad strategol.
  • Ymrwymiad profedig i fewnosod amrywiaeth, ymdeimlad o berthyn, cynhwysedd a chydraddoldeb o fewn strategaeth sefydliadol.
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, neu ymrwymiad gweithredol i ddysgu’r iaith fel rhan o gyfrifoldebau twf proffesiynol ac ymgysylltiad cynulleidfaoedd.

 

Ein Hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn cydnabod bod pobl dalentog weithiau yn oedi rhag ymgeisio oni bai eu bod yn bodloni pob gofyn. Mae ymchwil yn dangos bod hyn yn arbennig o wir o ran merched, unigolion, LHDTCRhA+, pobl anabl a niwrowahanol, a rhai o gefndiroedd dosbarth gweithiol.

Os yw hyn yn teimlo fel eich swydd ddelfrydol, hyd yn oed oes nad yw eich profiad yn alinio’n berffaith gyda phob un o’r meini prawf, rydym yn eich annog chi i ymgeisio beth bynnag. Gallai eich safbwynt a’ch profiad fod yn union yr hyn rydym ei angen er mwyn helpu i adeiladu cwmni opera’r dyfodol.

 

Addasiadau Rhesymol

Mae WNOCC wedi ymrwymo i broses recriwtio hygyrch a chynhwysol. Os ydych angen unrhyw addasiadau er mwyn cefnogi eich cais neu eich cyfweliad, dylech ebostio recruitment@wno.org.uk. Rydym wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi ar bob cam o’r broses.

 

Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS)

Mae WNOCC yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ac sy’n hunan-adnabod fel Person o’r Mwyafrif Byd-eang, person anabl, neu fel bod ynniwrowahanol.

Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais am ystyriaeth o dan y cynllun drwy ebostio recruitment@wno.org.uk. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y swydd ddisgrifiad.

 

Ceisiadau Rhyngwladol

Croesewir ymgeiswyr sydd wedi’u lleoli yn y DU neu’n rhyngwladol. Gall WNOCC gefnogi ceisiadau fisa Gweithiwr Medrus ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, yn ddibynnol ar ofynion y Swyddfa Gartref a gallu ariannol.

 

Sut i Ymgeisio

Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch y swydd ddisgrifiad llawn os gwelwch yn dda.

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, eich bod angen addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio neu fod y ffurflen gais ar-lein yn anhygyrch i chi, cofiwch gysylltu gyda: recruitment@wno.org.uk.