A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog yr Amgylchedd (Cadwraeth) / Swyddle
Swydd:
Swyddog yr Amgylchedd (Cadwraeth)
Lleoliad:
Dolgellau
Cyflog:
£37,594 - £41,428
Cyfeirnod:
202603CNC1
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Dyddiad Cau:
19-04-2026

Y rôl

Helpwch ni i gyflawni cyfraniad Cymru tuag at y nod byd-eang o warchod 30% o amgylcheddau tir, dŵr croyw a morol erbyn 2030. Gan weithio fel rhan o waith CNC yn cynorthwyo’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, byddwch yn helpu i greu cynlluniau rheoli ymarferol ar gyfer safleoedd dynodedig ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr i nodi camau gweithredu sy’n fuddiol i gynefinoedd, rhywogaethau a’r amgylchedd ehangach.

Rydym yn recriwtio Swyddog yr Amgylchedd yng Ngogledd-orllewin Cymru, am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027, gyda'r posibilrwydd o barhaolrwydd. Bydd y rôl hon wedi’u lleoli yn ein safle yn Dolgellau.

Byddwch yn darparu arbenigedd technegol mewn rheoli safleoedd gwarchodedig, gan gynnwys gwaith rheoleiddio (caniatadau a chydsyniadau), cyngor rhagweithiol ar gadwraeth, a datblygu partneriaethau a chytundebau rheoli. Bydd eich rôl yn cefnogi blaenoriaethau bioamrywiaeth CNC ac yn cynnig mewnbwn arbenigol i gydweithwyr a phrosiectau ar draws y sefydliad.

Efallai y byddwch hefyd yn cyfrannu at reolaeth amgylcheddol ehangach, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau, rheoli adnoddau dŵr ac ansawdd tir a dŵr, a gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â chyflawni canlyniadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thimau gweithredol sefydledig ac yn chwarae rhan allweddol wrth wella canlyniadau amgylcheddol ar lawr gwlad.

Mae gyrru yn rhan hanfodol o'r swydd hon gan y bydd angen i chi ymweld â safleoedd anghysbell i ffurfio barn er mwyn galluogi rhoi caniatâd neu drwydded. Rhaid i chi gael trwydded yrru llawn a chyfredol y DU.

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Arfon Hughes at arfon.hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

 

Amdanom ni

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae ein gweledigaeth yn syml ond yn uchelgeisiol: creu dyfodol lle mae pobl a byd natur yn ffynnu gyda’i gilydd. Mae popeth a wnawn yn cael ei yrru gan y gred bod amgylchedd naturiol ac iach yn sail i economi gref, cymunedau gwydn, ac ansawdd bywyd llewyrchus i bawb yng Nghymru.

Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chyflawni’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, menter a gynlluniwyd i greu buddion i natur, pobl a’r economi wledig yn y tymor hir. Drwy’r gwaith hwn, rydym yn helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru, gan sicrhau bod rheoli tir yn cefnogi bioamrywiaeth, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae ein timau’n angerddol, yn wybodus, ac yn rhannu’r un amcanion, sef gwarchod, adfer a gwobrwyo tirweddau ac asedau naturiol anhygoel Cymru. Os ymunwch â ni, byddwch yn rhan o sefydliad sy’n edrych at y dyfodol lle mae eich cyfraniad yn cefnogi’n uniongyrchol ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy cynaliadwy.

 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol...
  • Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid...
  • Asesu cydymffurfedd â deddfwriaeth berthnasol...
  • Llunio caniatadau a chydsyniadau dilys...
  • O fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor...
  • Monitro cynnydd gwaith...
  • Chwarae rôl o fewn gwasanaeth rheoli digwyddiadau...
  • Ymgymryd â dyletswyddau iechyd a diogelwch...
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth...
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun...
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill...

 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  • Gwybodaeth dda am gadwraeth a bioamrywiaeth...
  • Dealltwriaeth o sut y gall eich rôl gyfrannu...
  • Sgiliau hunanreoli, trefnu a TGCh cryf...
  • Y gallu i ddylanwadu ar bobl eraill...
  • Byddwch yn sicrhau datblygiad proffesiynol...
  • Trwydded yrru lawn sy’n gyfredol...

 

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: C1 - Lefel hyfedredd

Noder: Os nad ydych chi’n bodloni gofynion lefelau’r Gymraeg ar gyfer y rôl hon, ni fydd eich cais yn cael ei roi ar y rhestr fer.

Gofynion y Gymraeg