A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Anogydd Cyflogadwyedd / Swyddle
Swydd:
Anogydd Cyflogadwyedd
Lleoliad:
Wrecsam
Cyflog:
£26,276 - £28,256
Cyfeirnod:
202605GC
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Careers Wales Gyrfa Cymru (Career Choices Dewis Gyrfa)
Dyddiad Cau:
25-05-2026

Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yr un mor gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar neu wyneb-yn-wyneb ag ydynt yn defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.

 

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio.

 

Anogydd Cyflogadwyedd - Swydd llawn amser yng Nghanolfan Gyrfa Wrecsam, 37 awr yr wythnos/llawn amser Dydd Llun-Dydd Gwener.

 

Dylai ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon feddu ar sgiliau iaith Gymraeg lefel Ganolradd o leiaf.

 

Cyflog £26,276 - £28,256. Cyflog Cychwynnol £26,276

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa.

 

Mae ein Anogydd Cyflogadwyedd:

  • yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau’r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
  • yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
  • yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb)i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith neu newid swyddi;
  • yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth).

 

Er mai Wrecsam fydd y lleoliad canolog ar gyfer y rôl hon, disgwylir i deiliad y swydd weithio yn achlysurol yng Nghanolfan Gyrfa Queensferry yn Sir y Fflint.

 

Dylai ymgeiswyr fod wedi’u haddysgu i safon Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig e.e. cyngor a chyfarwyddyd, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych Ddiploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfa eisoes, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.

 

Disgrifiadau o Lefel Sgiliau Iaith Cymraeg

 

Canolradd: Byddwch yn gallu deall a chyfarthrebu’n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau diddorol, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml a chynhyrchu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi’u strwythuro’n dda i rannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau, neu drefnu gweithgareddau.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fwy o fanylion. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

 

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn ar 25/05/26.

 

Bydd y broses ddethol ar ffurf asesiadau a chyfweliad a gynhelir yn ddigidol drwy Microsoft Teams. Cynhelir yr asesiadau ar 08/06/26 a chynhelir y cyfweliadau ar 09/06/26.

Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.

Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg a gweithio’n ystwyth, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.