Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae Thales, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Phrifysgol De Cymru, wedi creu Canolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC), i gydnabod yr angen i greu a chadw swyddi gwerth uchel yn y rhanbarth yn ogystal ag ysgogi twf cynaliadwy mewn busnesau rhanbarthol. Mae'r NDEC yn gyfleuster pwrpasol yng Nglynebwy, De Cymru i ddiwallu'r angen hwn.
Bydd ffocws addysg NDEC ar weithgareddau allgymorth i godi ymwybyddiaeth o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) gan gynnwys er enghraifft Sgiliau Digidol a Seiberddiogelwch i blant ysgol, uwchsgilio athrawon a'r gweithlu lleol a darparu cyfleoedd datblygu gyrfa i fusnesau lleol.
I helpu i gefnogi ein datblygiad, rydym yn chwilio am Hyfforddwr i fod yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno cyrsiau hyfforddi a deunydd yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg yn unol ag agenda NDEC. Gan weithio'n agos gyda nifer o randdeiliaid gwahanol, y gymuned cwsmeriaid a phartneriaid mewnol/allanol, bydd yr ymgeisydd yn unigolyn trefnus a diwyd iawn i wneud y rôl yn llwyddiant.
Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried ar ôl eu cyflwyno, ac rydym yn cadw'r hawl i gau'r swyddi yn gynharach os derbynnir digon o geisiadau.
Fel gweithiwr yn PDC, bydd gofyn i chi deithio rhwng ein campysau ac amrywiaeth o safleoedd addysgol ar draws De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC), Glynebwy.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Lisa.cornford@southwales.ac.uk
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau.
Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni yn PDC: YMA
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol rannu'r ymrwymiad hwn.
Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall cydweithwyr fod yn nhw eu hunain a phob person yn cael ei drin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn meincnodi ein llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.
Os ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n siarad Cymraeg, byddwn ni’n falch o dderbyn eich cais. Bydd gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a wneir yn Saesneg.