A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr y Ganolfan Reoli ar Ddyletswydd / Swyddle
Swydd:
Rheolwr y Ganolfan Reoli ar Ddyletswydd
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£70,922 + 10% atodiad
Cyfeirnod:
REC002723
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
02-09-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Rydyn ni wrthi’n chwilio am Reolwr y Ganolfan Reoli ar Ddyletswydd i ymuno â’r tîm yng Nghanolfan Gweithrediadau Rheilffyrdd Cymru mewn swydd lle byddwch chi’n gyfrifol am reoli Gwasanaethau TrC mewn amser real ar draws y rhwydwaith cyfan.

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod swyddfa’r ganolfan reoli yn ymyrryd yn gydlynol a phendant, a hynny’n gyson â phartïon mewnol ac allanol er mwyn lleihau oedi cyffredinol a chynyddu lefelau gwasanaeth i’n cwsmeriaid.

 

Byddwch chi’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu adnoddau criwiau trenau a cherbydau rheilffordd yn unol â gofynion yr amserlen, ac yn cydlynu a phenderfynu ar lefel yr ymateb i unrhyw ddigwyddiad penodol (gan gynnwys defnyddio staff ychwanegol) a rhoi strwythur ar-alwad ar waith (gan gynnwys ysgogi ymateb priodol gan y Rheolwr Ar-Alwad).

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Adnabyddiaeth ymarferol dda o holl weithdrefnau ac arferion gweithredu’r Rheilffyrdd, gyda dealltwriaeth o’r darlun masnachol / busnes yn TrC a Network Rail,
  • Adnabyddiaeth ddaearyddol ragorol o Trafnidiaeth Cymru a rhwydweithiau cyfagos,
  • Gallu rheoli sefyllfaoedd anodd, gan roi cyfarwyddyd clir a chryno ar yr un pryd â bod yn ddyfal ac yn gadarn,
  • Sgiliau a Gwybodaeth TGCh gan gynnwys profiad o ATTUne4C, TRACS Enterprise, Trust, Tyrell a systemau eraill y ganolfan reoli.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.