A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu / Swyddle
Swydd:
Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Cyflog:
£76,715 - £88,023 y flwyddyn
Cyfeirnod:
REC000050-26
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Webrecruit
Dyddiad Cau:
15-10-2026

Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Casnewydd (gyda gweithio hybrid)

Amdanom Ni

Cymwysterau Cymru ydym ni, y sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru.

Ein blaenoriaethau strategol dros y pum mlynedd nesaf yw:

- Datblygu ystod gydlynol a chynhwysol o gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14-16 oed
- Adeiladu cynnig cymwysterau effeithiol a chynaliadwy
- Moderneiddio dulliau asesu
- Cefnogi'r system gymwysterau trwy grantiau ac arbenigedd

Rydym bellach yn chwilio am Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu i ymuno â ni ar sail barhaol ac amser llawn, gan weithio 37 awr yr wythnos.

Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith amgen, gan gynnwys rhan-amser a rhannu swydd, yn ystod y cyfweliad.

Y Manteision

- Cyflog o £76,715 - £88,023 y flwyddyn
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd â gwyliau cyhoeddus a chau swyddfa dros y Nadolig)
- Trefniadau gwaith hyblyg a hybrid
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Y Rôl

Fel ein Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws ein gweithgareddau cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan helpu i hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru.

Yn benodol, byddwch yn cyflawni ein strategaeth gyfathrebu a rhanddeiliaid, yn cryfhau ein proffil cyhoeddus, ac yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n effeithiol â'n cynulleidfaoedd. Byddwch yn llunio naratif cymhellol o amgylch ein gwaith, gan wneud defnydd effeithiol o sianeli digidol, cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd a pherthnasoedd â rhanddeiliaid.

Gan ymuno â'n Bwrdd Rheoli a'n grŵp uwch arweinyddiaeth, byddwch yn darparu cyngor arbenigol ar gyfathrebu ac ymgysylltu, gan sicrhau bod yr ystyriaethau hyn yn llywio datblygu polisïau a gweithgaredd rheoleiddio.

Amdanoch Chi

I gael eich ystyried ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, bydd angen y canlynol arnoch:

- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad profedig o gyflwyno strategaethau cyfathrebu neu ddulliau ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws cynulleidfaoedd amrywiol
- Profiad profedig o reoli materion a diogelu enw da'r sefydliad
- Profiad o arwain timau i sicrhau'r perfformiad gorau a gwelliant parhaus
- Profiad o feithrin perthnasoedd gwaith cryf yn fewnol ac yn allanol yn gyflym
- Dealltwriaeth dda o'r sector addysg yng Nghymru
- Cymwysterau proffesiynol neu hyfforddiant addas mewn arweinyddiaeth a rheolaeth

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 15 Hydref 2026.

Gall sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus, Cyfarwyddwr CC, Cyfarwyddwr Ymgysylltu, neu Bennaeth Cyfathrebu.

Felly, os hoffech ymuno â ni fel ein Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, gwnewch gais drwy ddefnyddio'r botwm a ddangosir. Mae Webrecruit yn hysbysebu'r swydd wag hon. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.