A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol / Swyddle
Swydd:
Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol
Lleoliad:
Llanelli
Cyflog:
Yn ddibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
ATCDT
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Tinopolis
Dyddiad Cau:
04-09-2026

Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol
Tinopolis – Llanelli

Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol creadigol, trefnus a hyderus yn olygyddol i arwain gwaith dyddiol tîm digidol Tinopolis Cymru yn Llanelli.

Byddwch yn datblygu ac yn creu cynnwys digidol-yn-gyntaf ar draws y cwmni, gan weithio’n bennaf gyda Heno a Prynhawn Da a chefnogi cynyrchiadau eraill. Byddwch yn troi syniadau’n fformatau cryf, yn cynllunio sesiynau ffilmio, yn briffio cyfranwyr a chydweithwyr, ac yn goruchwylio’r gwaith o’r syniad cyntaf hyd at gyhoeddi.

Mae hon yn rôl arwain ymarferol sy’n cyfuno creadigrwydd, cynllunio, barn olygyddol a dealltwriaeth o gynulleidfaoedd. Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Cynhyrchu Digidol ac yn rheoli gwaith, yn gosod blaenoriaethau ac yn cynnal ansawdd a chysondeb cynnwys y tîm.


Prif gyfrifoldebau

•    Arwain gwaith dyddiol y Tîm Cynnwys Digidol, gan reoli gwaith a gosod  blaenoriaethau gweithredol gwaith clir.
•    Datblygu syniadau, fformatau a chynlluniau cynnwys digidol-yn-gyntaf ar gyfer Heno, Prynhawn Da,  cynhyrchiadau eraill a cheisio am gomisiynau newydd.
•    Cynllunio sesiynau ffilmio digidol, briffio cyfranwyr a chydweithwyr, a goruchwylio’r gwaith hyd at ei gyhoeddi.
•    Cynhyrchu cynnwys pwrpasol ar gyfer YouTube, fideo ffurf fer, podlediadau a phodlediadau fideo.
•    Cynghori timau ar agoriadau fideo, strwythur, gofynion ffilmio a thriniaeth briodol ar gyfer pob llwyfan.
•    Adnabod cyfleoedd i ddilyn straeon ymhellach ac i ail-lunio neu ailddefnyddio deunydd archif.
•    Cynnal safonau uchel o ran adrodd straeon, cywirdeb, hygyrchedd, tôn, hawliau a chyflwyniad gweledol.
•    Defnyddio dealltwriaeth o’r gynulleidfa a data perfformiad i brofi, gwella a datblygu cynnwys newydd.
•    Gosod amcanion, rhoi adborth, cefnogi datblygiad aelodau’r tîm a rheoli perfformiad pan fo angen.
•    Rhannu gwybodaeth ymarferol ar draws timau cynhyrchu a gwella templedi a llifoedd gwaith.
•    Rheoli sawl blaenoriaeth yn annibynnol a sicrhau bod amserlenni cynhyrchu yn glir ac yn realistig.
•    Cyfeirio materion sensitif, cymhleth neu risg uchel at y Pennaeth Cynhyrchu Digidol.


Sgiliau a phrofiad

Hanfodol:
•    Sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig cryf.
•    Profiad sylweddol o ddatblygu a chynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer sawl llwyfan.
•    Dealltwriaeth gadarn o YouTube, fideo ffurf fer, podlediadau a phodlediadau fideo.
•    Profiad o arwain tîm, gosod gwaith, rhoi adborth a chefnogi datblygiad staff.
•    Barn olygyddol hyderus a dealltwriaeth o gywirdeb, hawliau, hygyrchedd a rheoli risg.
•    Gallu datblygu syniad o’r cysyniad cyntaf hyd at ffilmio, golygu, pecynnu a chyhoeddi.
•    Gallu defnyddio data perfformiad ac ymateb cynulleidfaoedd i wneud penderfyniadau cynnwys.
•    Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i reoli sawl blaenoriaeth yn dawel dan bwysau.
•    Sgiliau cyfathrebu a chydweithio cryf ar draws timau creadigol, golygyddol a chynhyrchu.


Dymunol:
•    Profiad o weithio gyda rhaglenni teledu, cynnwys byw neu raglenni cylchgrawn.
•    Profiad o ddatblygu llifoedd gwaith, templedi neu hyfforddiant ar gyfer timau cynnwys.
•    Dealltwriaeth o ddefnyddio deunydd archif a chynllunio cynnwys sy’n meithrin cynulleidfaoedd dros amser.
•    Dealltwriaeth o ddefnydd deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwella effeithlonrwydd prosesau cynhyrchu


Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn credu mewn amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.


Lleoliad:    Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog:    Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau:    4 Medi 2026


Manylion Pellach
Oriau Gwaith:    Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc pan fo angen.
Gwyliau:    Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn:    Gall staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Tinopolis, yn ddarostyngedig i delerau’r cynllun. Ar hyn o bryd, mae Tinopolis yn cyfrannu 3% o’r cyflog sylfaenol a disgwylir cyfraniad staff o 5%.


Ceisiadau:    Dylid anfon llythyr cais a CV at swyddi@tinopolis.com, gan nodi ‘Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol’ yn glir.

Dyddiad ac amser cau: 4 Medi 2026.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen darparu tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio.

Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir wrth wneud cais yn cael ei thrin yn unol â Pholisi Diogelu Data Tinopolis. Gellir gofyn i ni ddileu data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg