Swydd:
Dirprwy Reolwr Cynorthwyol
Lleoliad:
Gwynedd, Pwllheli
|
Pwrpas y Swydd
|
Sicrhau bod gwaith a gweinyddiaeth yr elusen yn effeithiol ac effeithlon.
Sicrhau cydymffurfiaeth a polisïau mewnol a rheolaethau statudol.
Sicrhau bod holl fuddiolwyr, staff a gwirfoddolwyr yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
Trefnu a chofnodi cyfarfodydd mewnol yr elusen.
Hybu ac annog ethos gynorthwyol a chymunedol yr elusen ymysg ein holl fuddiolwyr a rhanddeiliaid.
|
Dyletswyddau penodol at gyflawni pwrpas y swydd.
- Ddarparu holl agweddau gweinyddol yr elusen, ond yn benodol....
- Defnyddio OPTiMiSe Community Transport Software i gydlynu siwrneiau ein teithwyr yn gywir ac i’w llawn botensial, monitro a gwirio defnydd gan eraill.
- Dosbarthu siwrneiau i’r gyrwyr fel eu bod yn cyflawni eu horiau cytundebol.
- Gwirio taflenni/amserlenni gwaith gyrwyr, hebryngwyr a gwirfoddolwyr yr Elusen.
- Ymdrin â, neu gyfeirio holl ymholiadau ddaw i’r elusen.
- Ffeilio dogfennau’r Elusen yn dwt a threfnus ac mewn modd rhesymegol. Sicrhau trefn cadw copïau wrth gefn o’r ffeiliau electroneg.
- Gwirio a chofnodi anfonebau i mewn/allan, trin arian parod a bancio.
- Sicrhau cyfrinachedd a chydymffurfiaeth a’r holl godau ymarfer perthnasol.
- Gwirio a chofnodi dilysrwydd staff a gwirfoddolwyr gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio a’r ddeddfwriaeth berthnasol i yrru cerbydau’r Elusen.
- Cynnal sustem effeithiol o gynnal a chadw eiddo, offer a cherbydau’r elusen yn unol â gofynion statudol.
- Sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheolau Iechyd a Diogelwch y gweithle yn unol a’r cyfrifoldebau a nodir yn neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a pholisi Iechyd a Diogelwch yr Elusen.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygu a datblygu staff a gwirfoddolwyr, cofnodi cyrhaeddiad – cyfeirio cyfleoedd dysgu a hyfforddiant at y Rheolwr Llinell.
- Cynorthwyo gyda recriwtio a sefydlu gwirfoddolwyr.
- Trefnu a chofnodi cyfarfodydd mewnol yr elusen.
- Casglu a chofnodi pob adborth.
- Rhoi mewnbwn a chyfrannu at benderfyniadau rheolaethol yr elusen.
- Adrodd yn ôl a chydweithio â’r Rheolwr Llinell.
Cymraeg yw iaith weithredol yr elusen.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi.
Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn gynhwysfawr, fe all dyletswyddau ychwanegol gael eu cyflwyno at gyflawni Pwrpas y Swydd, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.