A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Ymgynghorydd Datgarboneiddio / Swyddle
Swydd:
Ymgynghorydd Datgarboneiddio
Lleoliad:
Gogledd Ddwyrain Cymru, Gweithio o Gartref
Cyflog:
£41,200
Cyfeirnod:
BF26918a
Sgiliau Cymraeg:
Dymunol
Math o Swydd:
Dros Dro ( Gweithio O bell - De Ddwyrain Cymru - Llawn amser - Nes tan 31 Mawrth 2027 )
Cleient:
Business in Focus Ltd
Dyddiad Cau:
30-09-2026

Ymgynghorydd Datgarboneiddio 

Rheolwr y Tîm Cynghori Thematig
Busnes Cymru: Gwasanaeth Twf a Datblygiad Busnes
Gweithio o’r Cartref yn Rheolaidd

 

Y Cytundeb

 

Business in Focus yw’r prif bartner cyflwyno ar gyfer Partneriaeth Fenter Cymru, ynghyd â Menter Môn, M-SParc a rhwydwaith o asiantaethau cymorth ledled Cymru. Mae Partneriaeth Fenter Cymru wedi ennill y cytundeb i gyflwyno gwasanaeth Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor a chymorth i entrepreneuriaid ledled Cymru.  

Mae'r Gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf yn canolbwyntio ar ddarparu ystod eang o gyngor i fusnesau sy’n tyfu drwy amrywiaeth o ddulliau sy'n cynnwys cymorth digidol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.  

Roedd cynnig Partneriaeth Fenter Cymru yn llwyddiannus ar gyfer cyflwyno dau o wasanaethau cyngor Busnes Cymru; Y Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes a'r Gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf.  
   
   
Y Swydd

Mae ymholiadau gan gleientiaid yn mynd drwy broses ddiagnostig i nodi materion allweddol sy'n cyd-fynd â'r pethau hyn: 
•    Ymgorffori effeithlonrwydd ynni ac adnoddau a thechnolegau carbon isel newydd
•    Datblygu ffyrdd newydd, effeithlon o ran adnoddau ar gyfer gweithio ac ysgogi newid hirdymor
•    Delio ag effeithiau economaidd yr argyfwng ynni 

Ymholiadau cyffredinol gan gleientiaid - Y Cynghorwyr Arbenigol yw'r arweinwyr thematig ar gyfer eu maes technolegol perthnasol ac maent yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd ar draws y gwasanaeth; gan ddatblygu adnoddau a chynnwys arloesol a difyr i'w defnyddio gan gleientiaid a chydweithwyr, gan gyfrannu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol. 

Fel rhan o'r Rhaglen Rheoli Perthnasoedd, mae Cynghorwyr Arbenigol yn darparu cymorth i gleientiaid yn uniongyrchol ar brosiectau meysydd arbennig, fel y'u neilltuir gan Reolwyr Perthnasoedd neu Aseswyr Cymorth busnes fel rhan o 'Llwybr Twf' y cleient.

 

Y Cyfrifoldebau

Ymholiadau cyffredinol gan gleientiaid:


1.    Cefnogi'r Tîm Cyngor i ddarparu cyngor arbenigol drwy amrywiaeth eang o ddulliau; a) digidol, e.e. gweminarau ar blatfformau digidol priodol, gweminarau 1-llawer, e.e. gweithdai 'Y Weledigaeth Werdd', cymryd rhan mewn seminarau a gweithgareddau eraill sy'n denu ac yn ymgysylltu â chleientiaid twf, a b) sesiynau 1-i-1 wyneb yn wyneb, achlysurol, os oes angen. Gwneud y gweithgareddau hyn mewn modd proffesiynol a llawn gwybodaeth gan ddefnyddio'r deunyddiau y cytunwyd arnynt.  
2.    Cefnogi'r Tîm Cynghori fel arweinydd arbenigol, gan greu a datblygu cynnwys digidol perthnasol i arbenigedd, e.e. tiwtorialau fideo, a chadw adnoddau digidol perthnasol yn gyfredol, e.e. taflenni ffeithiau, gwybodaeth 3ydd parti ar gyfer cyfeirio.
3.    Galluogi cydweithwyr i fynd i'r afael ag ymholiadau arbenigol thema gyffredin a chefnogi'r gwaith o gyflawni mentrau thematig, e.e. 'Yr Addewid Twf Gwyrdd', gan ddarparu cyngor thematig i gydweithwyr, rhannu gwybodaeth arbenigol a darparu cyngor ar faes arbenigedd i gydweithwyr Busnes Cymru. 
4.    Gweithio gyda'r Rheolwr Cyflawni a Rheolwr y Tîm Cynghori Thematig i ddatblygu gweithgareddau a chynnwys newydd ac arloesol, cynnig gwelliannau parhaus, a chyflwyno DPP i gydweithwyr yn y gwasanaeth ehangach. 
5.    Monitro gweithredu, defnyddio a chanlyniadau cam newydd y Cyfrifiannell Carbon a'u rhannu gyda'r Tîm Cynghori.

 

Rhaglen Rheoli Perthnasoedd:

 

6.    Cefnogi'r Tîm Cynghori i gydweithio gyda'r Tîm Rheoli Perthnasoedd, gan ymgysylltu â'r Panel Cyfranogiad Ecosystem i gefnogi cleientiaid sydd ag ymholiadau perthnasol arbenigol.  Cynnal gwaith prosiect â chleientiaid sydd angen cymorth arbenigol.
7.    Defnyddio adnoddau diagnostig cymeradwy i ddysgu am fusnes cleient a nodi rhwystrau perthnasol i arbenigedd o ran datblygu a thwf.  
8.    Monitro gweithgarwch/cynnydd cleientiaid yn erbyn eu Llwybr Twf i gynyddu canlyniadau/dangosyddion perfformiad allweddol i'r eithaf ar gyfer Llywodraeth Cymru a darparu deunydd/astudiaethau achos ar gyfer cynnwys marchnata.

 

Cyfrifoldebau cyffredinol:

 

9.    Annog cleientiaid i ymgysylltu â'r rhwydweithiau Twf busnes-i-fusnes perthnasol a all eu cynorthwyo i gyflawni potensial o ran twf a datblygu busnes.  Gwneud awgrymiadau priodol a chyfeirio cleientiaid yn unol â hynny.
10.    Sefydlu a datblygu ymgysylltiad lleol a chenedlaethol effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid i hyrwyddo’r gwasanaeth, sicrhau rhwydwaith cyfeirio effeithiol, a chyngor broceriaeth.
11.    Mynd i ddigwyddiadau ymgysylltu a rhwydweithio ar gyfer busnesau i hyrwyddo'r gwasanaeth i gleientiaid a rhanddeiliaid posibl. 
12.    Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r Ecosystem i sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael gan ddarparwyr gwasanaeth arbenigol wedi'u caffael yn y sector preifat yn parhau'n berthnasol ac yn gyfredol.  
13.    Nodi ac annog cleientiaid sydd â’r potensial i fod yn llysgenhadon Busnes Cymru neu gymryd rhan yn y rhaglen Fentora Busnes Cymru fel Mentor.
14.    Cadw ar flaen gwybodaeth am ddatblygiadau lleol, cenedlaethol a phenodol i sector mewn meysydd arbenigol, ymarfer a thueddiadau busnes cyffredinol. Ymgymryd â dysg briodol y cytunwyd arni i gynnal DPP.  Rhannu gwybodaeth ddoeth yn rhagweithiol ac yn rheolaidd i ddatblygu ymgysylltiad, cyrhaeddiad a darpariaeth gwasanaeth yn y fforymau priodol, dan gyfarwyddyd y Rheolwr Cyflawni a Rheolwr y Tîm Cynghori Thematig.
15.    Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol gan yr Uwch Dîm Rheoli.

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:

 

16.    Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy’r cymorth busnes sy’n cael ei ddarparu i gleientiaid Busnes Cymru;
17.    Cynnal ymwybyddiaeth, hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyfredol ynghylch materion cydraddoldeb ac amrywiaeth a sut i ddarparu gwasanaeth cynhwysol mewn modd proffesiynol i’r holl gleientiaid.
18.    Darparu gwasanaeth cynhwysol yn unol â gofynion cytundebol a gwerthoedd Business in Focus.

 

Mae'r uchod yn ddiffiniad bras o gyfrifoldebau'r swydd. Nid yw'n ystyried pob elfen o'r swydd y gall fod yn ofynnol i ddeiliad y swydd ei chyflawni. Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gwaith deiliad y swydd yn seiliedig ar anghenion y busnes.