Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cynorthwyydd Cyfathrebu
Mae’r holl feini prawf yn hanfodol oni nodir fel arall
Yn atebol i’r canlynol: Swyddog Cyfathrebu
Yn gyfrifol yn uniongyrchol am y canlynol (i’w adolygu): Amherthnasol
Diben cyffredinol y swydd
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i gyflawni gwaith ym maes cyfathrebu,
cysylltiadau cyhoeddus, cynnwys digidol, a gweithgarwch marchnata ar gyfer
Barcud. Byddwch yn helpu i ddod â’n stori yn fyw drwy rannu profiadau ein
tenantiaid, ein cymunedau a’n cydweithwyr, a byddwch yn dangos effaith ein
gwaith.
Gan weithio ar draws ystod o sianelau, byddwch yn creu cynnwys clir a
diddorol ar gyfer cydweithwyr, rhanddeiliaid, newyddiadurwyr, a’r cyhoedd yn
ehangach. O gynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol i ymgyrchoedd digidol,
cysylltiadau â’r cyfryngau a gwaith cyfathrebu mewnol, byddwch yn chwarae
rhan weithgar yn y gwaith o helpu Barcud i gyfathrebu a chysylltu â’i
gynulleidfaoedd.
Byddwch yn cynorthwyo gweithgarwch cyfathrebu sydd wedi’i gynllunio a
gweithgarwch cyfathrebu adweithiol, a chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer
ymholiadau gan y cyfryngau ac ymholiadau am gyfathrebu, lle byddwch yn
helpu i sicrhau ymatebion prydlon a chywir. Mae hon yn rôl amrywiol sy’n
gofyn am agwedd hyblyg a rhagweithiol a’r gallu i weithio’n effeithiol.
Cyfrifoldebau Allweddol
• Cynorthwyo i greu cynnwys clir, diddorol a hygyrch ar gyfer ystod o
gynulleidfaoedd a sianelau, sy’n cynnwys gwaith cyfathrebu mewnol,
datganiadau i’r cyfryngau, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol,
llythyrau newyddion, a graffeg a fideos syml.
• Helpu i droi syniadau am ymgyrchoedd yn gynnwys diddorol ar
gyfryngau cymdeithasol, sy’n taro tant gyda thenantiaid a chymunedau.
• Hybu gwaith cyfathrebu mewnol effeithiol drwy ddatblygu cynnwys ar
gyfer y fewnrwyd a bwletinau rheolaidd i’r staff.
• Cynorthwyo i ddiweddaru a monitro gwefan Barcud er mwyn sicrhau
bod y cynnwys yn gywir ac yn berthnasol a’i fod yn cael ei ddiweddaru’n
gyson.
• Cynorthwyo i drefnu a hyrwyddo ymgyrchoedd a digwyddiadau mewnol
ac allanol.
• Darparu cymorth o ran cyfathrebu a gweinyddu ar draws ymgyrchoedd
a sianelau digidol, sy’n cynnwys amserlennu cynnwys.
• Cynorthwyo i gynhyrchu ffotograffau a chynnwys ar gyfer fideos, a
ddefnyddir ar draws gwaith cyfathrebu digidol ac mewn print.
• Helpu i gynnal brand a chywair cyson i Barcud ar draws pob math o
sianelau a deunyddiau cyfathrebu.
• Cynorthwyo i ddatblygu a dosbarthu’r llythyr newyddion bob chwarter, a
chynorthwyo gyda gweithgarwch marchnata digidol gan gynnwys
ymgyrchoedd drwy ebost.
• Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, gan
sicrhau ymatebion prydlon a chywir, a diweddaru’r lòg ar gyfer
ymholiadau gan y cyfryngau.
• Cynorthwyo i baratoi safbwyntiau ar gyfer y cyfryngau a pharatoi
papurau briffio a datganiadau i’r wasg.
• Monitro sianelau traddodiadol a sianelau ar gyfryngau cymdeithasol, a
helpu i greu cynnwys ymatebol er mwyn cynnal presenoldeb a
pherthnasedd Barcud ar-lein.
• Cynorthwyo i werthuso ymgyrchoedd drwy lunio adroddiadau monitro, a
defnyddio dealltwriaeth i wella ymgysylltiad a chyrhaeddiad.
• Gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y Grŵp i hybu
gweithgarwch cyfathrebu ac annog defnydd effeithiol o adnoddau
cyfathrebu.
• Rheoli llwyth gwaith yn effeithiol a chynorthwyo i gyflawni gweithgarwch
cyfathrebu erbyn terfynau amser.
Cyfrifoldebau Corfforaethol
• Darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid yn fewnol ac yn allanol.
• Gweithio’n unol ag ymrwymiadau Barcud o ran cydraddoldeb,
amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn, bob amser ac ym mhob agwedd
ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
• Ym mhob agwedd ar waith Barcud, hyrwyddo systemau cyfathrebu
effeithiol, gwasanaethau o safon i denantiaid a chymunedau, a gwelliant
parhaus.
• Cymryd rhan mewn cyfleoedd i ddysgu a datblygu sy’n berthnasol i’r rôl.
Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol
gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni. Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn
rhestr gyflawn, ac mae’n bosibl y bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n
unol ag anghenion busnes a gofynion sefydliadol sy’n newid