A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfieithydd / Swyddle
Swydd:
Cyfieithydd
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£31,096 - £33,270
Cyfeirnod:
hmrc465392
Math o Swydd:
Parhaol ( Gradd swydd - Swyddog Gweithredol )
Cleient:
HMRC | CThEM
Dyddiad Cau:
20-07-2026

Mae CThEF wedi lansio Cyfarwyddiaeth Profiad y Cwsmer (CXD) gyffrous newydd, sy’n dod â chydweithwyr at ei gilydd o bob rhan o’r sefydliad. Ei nod clir ac uchelgeisiol yw gweddnewid y ffordd y mae ein cwsmeriaid yn defnyddio ein gwasanaethau.  

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddylunio a darparu gwasanaethau symlach a mwy effeithiol, sy’n haws cael mynediad atynt. Y bwriad yw diwallu anghenion unigolion, busnesau a chyfryngwyr ledled y DU. Bydd CXD yn chwarae rhan allweddol wrth lunio ffyrdd mwy hwylus a chadarnhaol o ryngweithio â CThEF.  

Fel rhan o’r daith hon, rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad i ymuno â’r Uned Gymraeg yng Nghaerdydd.  

Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o dîm croesawgar a chydweithredol. Byddwch yn defnyddio’ch sgiliau i gynhyrchu cyfieithiadau o ansawdd uchel a helpu CThEF i roi gwasanaeth i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd eich gwaith yn cael effaith wirioneddol ar y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â’n cwsmeriaid ac yn rhoi cymorth iddyn nhw.  

Rydym wedi ymrwymo i:

  • Ysgogi arloesedd ystyriol ac effeithiol.  
  • Sicrhau eglurder drwy ddilyn blaenoriaethau ac amcanion clir. 
  • Grymuso cydweithwyr i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. 

Meithrin amgylchedd gwaith cydweithredol a chynhwysol.

Swydd ddisgrifiad

Mae’r dyletswyddau’n cynnwys defnyddio pecynnau meddalwedd modern i gynorthwyo wrth gyfieithu dogfennau amrywiol mewn sawl fformat electronig gwahanol, yn ogystal â thrafod a helpu i benderfynu ar derminoleg ac arddull ysgrifennu newydd. Bydd cyfleoedd rheolaidd hefyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau cyfieithu.

Bydd hyn yn ehangu’ch profiad o reoli cwsmeriaid a’r hyn y maent yn galw amdano, yn gloywi’ch sgiliau mewn perthynas â meddalwedd cyfieithu a therminoleg cyfieithu, ac yn egluro sut rydym yn darparu ein gwasanaethau Cymraeg.

I helpu gyda hyn, bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gallu cynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf, a bod yn flaengar gan ddangos agwedd bositif a pharodrwydd i ddysgu.

Manyleb bersonol

Prif Gyfrifoldebau

  • Cynhyrchu a phrawfddarllen cyfieithiadau Saesneg > Cymraeg cywir, ac o ansawdd uchel, ar draws ystod o ddeunyddiau.  
  • Defnyddio offer cyfieithu a chynnal adnoddau ieithyddol i’w llawn botensial.  
  • Cynorthwyo wrth ddatblygu terminoleg ac arddull gyson.  
  • Cyfrannu at welliant parhaus ein gwasanaethau Cymraeg.  

Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr a strwythuredig, a fydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o’r sgiliau hyn.  

Meini Prawf Hanfodol

  • Rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg (yn ysgrifenedig ac ar lafar).  
  • Gradd yn y Gymraeg, neu gymhwyster perthnasol, neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg.  
  • Gwybodaeth gadarn am brosesau, offer ac adnoddau cyfieithu Cymraeg (digidol ac ar bapur).  
  • Gallu blaenoriaethu llwythi gwaith yn effeithiol, a chyfathrebu’n glir â rhanddeiliaid.  
  • Dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith, a’r gofynion o ran darparu gwasanaethau addas ar eu cyfer.   

Meini Prawf Dymunol

  • Bod yn Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Saesneg i’r Gymraeg).  
  • Gwybodaeth gadarn am y gwahanol fformatau y mae angen cyfieithiadau Cymraeg (e.e. Word, Excel, PDF, HTML, ac ati). 

Gweminar

Mae CThEF yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth, ar y dyddiadau canlynol:
- dydd Iau 2 Gorffennaf, o 12:30 tan 1:30pm
- dydd Gwener 10 Gorffennaf, o 12:30 tan 1:30pm.

Byddwch yn gallu dysgu rhagor am CThEF gan y bobl sy’n cyflawni’r swydd ar hyn o bryd, gan gynnwys: 

  • Pwy ydyn ni
  • Beth rydyn ni’n ei wneud
  • Pam rydyn ni’n gwneud hyn


Bydd cyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y swydd neu’r broses ymgeisio. 

Er mwyn ymuno ag un o’r sesiynau, bydd angen i chi gofrestru.

Cymwysterau

Gradd yn y Gymraeg, neu gymhwyster perthnasol, neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg.

Ieithoedd

Cymraeg a Saesneg

Ymddygiadau

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
  • Cyflawni’n brydlon

Sgiliau technegol

Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Prawf ysgrifenedig i arsylwi ar eich sgiliau cyfieithu i’r Gymraeg.

Buddion

Ochr yn ochr â'ch cyflog o £31,096, mae Cyllid a Thollau EF yn cyfrannu £9,008 tuag at fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Buddion wedi'i Ddiffinio'r Gwasanaeth Sifil. 

Mae CThEF yn gweithredu polisïau Gweithio Hyblyg a Gweithio Hybrid, sy’n eich galluogi i gydbwyso eich gwaith a’ch ymrwymiadau personol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd angen trefniadau gwaith mwy hyblyg, a byddwn ni’n cytuno ar geisiadau o’r fath lle bo hynny’n bosibl, gan ystyried ein hanghenion gweithredol yn ogystal ag anghenion ein cwsmeriaid.

 

Rydyn ni’n cynnig lwfans gwyliau hael, sef 25 diwrnod i ddechrau, ac fe gewch chi ddiwrnod ychwanegol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth cymhwysol hyd at uchafswm o 30 diwrnod.

 

  • Pensiwn – rydyn ni’n gwneud cyfraniadau tuag at bensiwn Alpha ein cydweithwyr sy’n cyfateb i o leiaf 28.97% o’u cyflog.
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd.
  • Cymorth personol.
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu.

 

Gwybodaeth bwysig  

Sylwer – mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch CV, yn ogystal â’ch Datganiad Personol, yn Gymraeg. Ni ellir ystyried ceisiadau nad ydynt wedi’u llenwi’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwnewch gais cyn 11:55 pm ar Ddydd Llun 20 Gorffennaf 2026