A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Contractau / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Contractau
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£45,000 to £50,000
Cyfeirnod:
REC01363
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
31-08-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Mae’r Rheolwr Contractau yn gyfrifol am gynnal iechyd portffolio contractau Trafnidiaeth Cymru (TrC) drwy gefnogi perchnogion contractau a rheoli’r gwaith o ddarparu cyngor a llywodraethu arbenigol i sicrhau bod TrC yn gallu cyflawni contractau’n effeithiol a lliniaru risg fasnachol i’r sefydliad.

· Gweinyddu’r system rheoli contractau o ddydd i ddydd drwy gynorthwyo, mewnbynnu a chynnal cywirdeb data i systemau amrywiol i sicrhau bod gan y tîm a pherchnogion contractau yr holl ddata priodol sydd ei angen i gynorthwyo a galluogi penderfyniadau mwy gwybodus, a monitro gwariant yn erbyn cyllidebau a gwerthoedd contractiedig.

 

· Cynnal dadansoddiad rheolaidd o’r dangosfwrdd rheoli contractau Power BI drwy ddehongli’r data a mynd ati’n rhagweithiol i nodi eithriadau sy’n peri risg fasnachol ac ariannol a gweithredu ar yr eithriadau hynny mewn modd amserol i liniaru’r risg.

 

· Ymateb i ymholiadau ynghylch contractau gan berchnogion contractau, drwy ddarparu cyngor sy’n ymwneud â gweithgareddau rheoli contractau, cynorthwyo i olrhain a mynd i'r afael â defnydd o'r gyllideb, yn ogystal â darparu cefnogaeth ar gyfer problemau perfformiad nad ydynt yn rhy gymhleth gyda chyflenwyr i sicrhau datrysiadau amserol.

 

· Drafftio newidiadau i gontractau (ac eithrio’r Cytundeb Seilwaith a Grant) i’w hadolygu gan y Rheolwr Contractau drwy gysylltu â pherchnogion contractau i nodi gofynion a chyfiawnhau’r newid a chasglu’r holl wybodaeth fasnachol angenrheidiol a chymeradwyaeth ariannol i sicrhau bod newidiadau’n rhwymo’n fasnachol.

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

 

· Profiad amlwg o reoli neu weithio gyda chontractau mewn amgylchedd masnachol, caffael neu gadwyn gyflenwi.

· Profiad amlwg o gydweithio ag amrywiol bobl i sicrhau canlyniadau busnes llwyddiannus.

· Cyfathrebwr effeithiol, sy’n gallu cyflwyno ac esbonio opsiynau i eraill, ac ymateb yn hyderus i ymholiadau neu heriau.

· Profiad o ddadansoddi data i ddehongli gwybodaeth a chanfod tueddiadau.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.