Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ydych chi'n angerddol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn ymdrin â chwynion yn effeithiol?
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am recriwtio Swyddog Ymgysylltu a Chymorth ar gyfer yr Awdurdod Safonau Cwynion. Gan weithio o fewn Awdurdod Safonau Cwynion Cymru (ASC), mae’r swydd hon yn allweddol ar gyfer ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a'u cefnogi i ymdrin â chwynion yn effeithiol trwy gefnogi hyfforddiant a darparu cyngor. Mae'r rôl hefyd yn cefnogi'r Rheolwr Safonau Cwynion a Gwella wrth hyrwyddo rôl yr Awdurdod Safonau Cwynion i gyrff cyhoeddus, wrth reoli perthnasoedd â'r cyrff cyhoeddus hynny a ddaw o dan y safonau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac wrth brosesu gwybodaeth ganddynt.
(Gweler y Swydd Ddisgrifiad am restr lawn o ddyletswyddau)
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
(Gweler y Manyleb Person am restr lawn o'r gofynion hanfodol)
Sut i ymgeisio
Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gyrchu’r pecyn recriwtio.
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: recriwtio@ombwdsmon.cymru Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw:
5 yh dydd Iau 5 Chwefror 2026. Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.