Swydd:
Swyddog Cymunedau a Gwirfoddolwyr (22.5 awr yr wythnos)
Cyflog:
£30,000 y flwyddyn, cyfwerth ag amser llawn
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Wedi’i gofrestru fel elusen yn 2022, nod Tir Natur yw gwella a gwarchod yr amgylchedd ffisegol a naturiol yng Nghymru er budd y cyhoedd, a hynny drwy adfer y prosesau naturiol sy’n arwain at ecosystemau gwydn drwy ailwylltio. O wneud hynny, byddwn yn gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a helaethrwydd rhywogaethau yng Nghymru. Mae Tir Natur yn berchen ar 1200 erw o dir yng nghanolbarth Cymru, sef prosiect Cwm Doethïe.
Mae gwaith Tir Natur hefyd yn cwmpasu:
- Hybu addysg ac ymwneud y cyhoedd ag egwyddorion adfer ecosystemau ac ailwylltio, drwy hyrwyddo egwyddorion ailwylltio.
- Hybu lles cymunedau yng Nghymru, drwy hwyluso cysylltiad pobl â thirweddau naturiol a gwella mynediad i’r tirweddau hyn.
Yn Tir Natur rydym wedi ymroi i’n cymuned ehangach ac mae ein holl gyfathrebiadau’n cael eu cyflwyno yn unol â’n polisi iaith Gymraeg. Mae sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer cyflawni dyletswyddau’r rôl yn effeithiol. Gan feithrin perthnasoedd gydag aelodau’r gymuned leol, aelodau cymunedau o ddiddordeb a gwirfoddolwyr ar draws Tir Natur, bydd y Swyddog Cymunedau a Gwirfoddolwyr yn gyfrifol am gasglu adborth a syniadau gan yr holl bartïon i ddatblygu ein cymuned ymhellach.
Bydd yn arwain rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i holl aelodau ein gwahanol gymunedau ac yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a hygyrch, gan anelu i ehangu ein cyrhaeddiad mor eang â phosibl.
Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Rheoli Cysylltiadau Cymunedol
- Cynnal dadansoddiad o anghenion cymunedau, gan eu cydweddu ag anghenion strategol Tir Natur ar gyfer y tir a’n cenhadaeth ehangach.
- Datblygu a gweithredu’r Rhaglen Ymgysylltu fel yr amlinellir yng Nghynllun Prosiect Cronfa Rhwydweithiau Natur.
- Rheoli a gweithredu gweithgareddau allgymorth cymunedol o’r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
- Datblygu grym cymunedau i weithredu, ynghyd â’u cyfranogiad, eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad mewn perthynas â gwaith y prosiect.
- Cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau (dysgu, profiad, hyfforddiant a sgyrsiau) yn y gymuned ac ar y tir ar gyfer pobl leol ac ar y cyd.
- Gweithio gyda’r Rheolwr Cyfathrebu i gofnodi ac adrodd straeon pobl leol a’r tir hwn – am fywyd, gwaith, treftadaeth a bywyd gwyllt, a deall sut gallai’r tir hwn edrych o fod yn fwy gwyllt ac yn fwy poblog.
- Cynrychioli Tir Natur mewn digwyddiadau cymunedol yn ôl yr angen.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd ag unigolion a allai elwa o’n rhaglenni cymunedol.
- Goruchwylio datblygiad creadigol digwyddiadau a gwaith hyrwyddo, gan weithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol.
Rheoli Gwirfoddolwyr
- Gweithio i ddenu a chadw gwirfoddolwyr o gymunedau lleol a’r tu hwnt.
- Datblygu rhaglen o weithgareddau ystyrlon a diddorol i wirfoddolwyr, sy’n cyflawni ein gweledigaeth ac yn cyfrannu at genhadaeth ehangach Tir Natur.
- Arwain ar ddatblygu a sicrhau gwelliannau parhaus i weithgareddau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr.
Arall
- Gweithio i gefnogi siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg ar draws Tir Natur.
- Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau Tir Natur ac mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cyfreithiol a statudol ac arferion gorau.
- Mynd ati’n weithredol i geisio a chynnig hyfforddiant a chyfleoedd datblygiad personol.
- Gweithio i hyrwyddo egwyddorion ac arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Gweithio mewn ffordd hyblyg, gan gynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen yn rhesymol.