A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cyfathrebu / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cyfathrebu
Lleoliad:
Caerdydd, Cymru
Cyflog:
Band 2 £33,233 - £42,727
Cyfeirnod:
Swyddog-Cyfathrebu-Communications-Officer-PlaidCymru
Math o Swydd:
Parhaol ( Parhaol (37 awr yr wythnos) )
Cleient:
Plaid Cymru
Dyddiad Cau:
05-08-2026

Manyleb Swydd: 

Swyddog Cyfathrebu 

 

Teitl y Swydd: 

Swyddog Cyfathrebu 

 

Lleoliad: 

Pencadlys Plaid Cymru, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd 

Mae’r swydd hon yn cynnig peth gweithio hybrid. 

 

Math o Gontract 

Llawn  Amser 

 

Rheolwr Llinell 

Pennaeth Strategaeth Wleidyddol a Chyfathrebu 

 

Cyflog 

Band 2 £33,233 - £42,727  

Gwneir penodiadau fel arfer ar ben isaf y raddfa 

 

Oriau Gwaith 

37 awr yr wythnos, gyda gofyn i weithio ambell waith gyda’r nosau ac ar benwythnosau. Mae Plaid Cymru yn gweithredu system o oriau gweithio hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn gyda dyddiau braint ychwanegol.  

 

 

Pwrpas y rôl 

Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn cefnogi’r ddarpariaeth strategaeth gyfathrebu Plaid Cymru, gan helpu i gyflwyno neges y blaid yn glir, yn greadigol ac yn gyson ar draws sianeli digidol, mewnol a’r cyfryngau. Gan weithio dan y Pennaeth Strategaeth Wleidyddol a Chyfathrebu, byddwch yn helpu i gyfleu negeseuon Plaid Cymru mewn ffordd glir, ddeniadol sy’n adlewyrchu ei gwerthoedd ac sy’n apelio at bleidleiswyr, yn cryfhau proffil y blaid, ac yn cefnogi ffrydiau gwaith ehangach gan gynnwys ymgyrchoedd ac aelodaeth. 

Byddwch yn gyfrifol am greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys fideos a graffeg byrion, cefnogi cyfathrebu mewnol, a helpu gyda gweithgaredd yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau. Dyma rôl yn y Tîm Cyfathrebu, fyddai’n addas i rywun a greddf ddigidol gref, sgiliau ysgrifennu da, ymwybyddiaeth wleidyddol, ac ymrwymiad i werthoedd Plaid Cymru. 

 

Prif Gyfrifoldebau 

Cyfryngau digidol a chymdeithasol: 

  • Cefnogi cynnyrch cyfryngau cymdeithasol Plaid Cymru o ddydd i ddydd ar draws prif lwyfannau’r blaid trwy greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol, gan gynnwys graffeg a fideos byrion, er mwyn cyfleu neges Plaid Cymru yn glir ac yn effeithiol. 

  • Cefnogi rheoli cymunedol ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y blaid, gan gynnwys monitro sylwadau, nodi cyfleoedd i ymwneud, a thynnu sylw ar risgiau neu broblemau lle bo hynny’n briodol. 

  • Gweithio gyda’r Swyddog Ymgyrchoedd Digidol, helpu i greu cynnwys ar gyfer ymgyrchoedd a digwyddiadau gwleidyddol allweddol gan gynnwys cynadleddau’r blaid. 

  • Cynorthwyo gyda monitro tueddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, datblygiadau gwleidyddol a sgyrsiau ar-lein sy’n berthnasol i Blaid Cymru. 

  • Cyfrannu syniadau am gynnwys creadigol sy’n adlewyrchu gwerthoedd Plaid Cymru ac yn cysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd. 

 

Cefnogaeth gyda gwaith y wasg a’r cyfryngau: 

  • Helpu’r tîm Cyfathrebu gyda gwaith y wasg, gan gynnwys drafftio deunydd byr i’r wasg, paratoi nodiadau briffio, a chefnogi monitro’r cyfryngau. 

  • Helpu i ymwneud â newyddiadurwyr a darlledwyr i hyrwyddo gwaith y blaid, yn enwedig yn ystod ymgyrchoedd, cynadleddau’r blaid, ac achlysuron gwleidyddol allweddol. 

 

Cyfathrebu mewnol gyda’r aelodau: 

  • Gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau fod pob gohebiaeth fewnol yn glir, hygyrch, yn ddeniadol ac yn gyson â neges ehangach Plaid Cymru. 

  • Helpu gyda chyfathrebu digidol mewnol ledled y blaid. 

  • Datblygu cynnwys, print a digidol, sy’n gwella cyfathrebu gydag aelodau Plaid Cymru ar lawr gwlad. 

  • Helpu i rannu arfer da o bob cwr o’r blaid a chryfhau ymdeimlad o berthyn, hyder a momentwm ymhlith yr aelodau. 

  • Helpu i gynllunio cynnwys ynghylch ymgyrchoedd a chyhoeddiadau’r blaid, cynadleddau a digwyddiadau gwleidyddol o bwys. 

 

Sgiliau Allweddol a Phrofiad 

Hanfodol 

  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig cryf yn yr Gymraeg a Saesneg. 

  • Dealltwriaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a sut i greu cynnwys deniadol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. 

  • Y gallu i gynhyrchu cynnwys ysgrifenedig clir, hygyrch a manwl gywir. 

  • Profiad o greu cynnwys digidol, megis graffeg, fideos, inffograffeg neu asedau cyfryngau cymdeithasol. 

  • Barn wleidyddol dda a dealltwriaeth o werthoedd a nod Plaid Cymru. 

  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd gwleidyddol sy’n symud yn gyflym. 

  • Y gallu i reoli sawl tasg ar y pryd a chwrdd â therfynau amser. 

  • Profiad o ddefnyddio dulliau dylunio, fideo neu gyfryngau cymdeithasol fel Canva, Adobe Creative Suite, CapCut neu lwyfannau tebyg. 

  • Profiad o ysgrifennu ar gyfer llythyrau newyddion, gwefannau, e-byst neu gyfryngau cymdeithasol. 

 

Dymunol 

  • Profiad o weithio neu wirfoddoli mewn mudiad gwleidyddol, ymgyrchu, y cyfryngau, elusen neu fudiad aelodaeth. 

  • Dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru ac o dirwedd cyfryngol Cymru. 

  • Profiad o ddefnyddio offer dadansoddeg i fesur perfformiad cyfryngau cymdeithasol neu ymgyrchoedd. 

 

Dyddiad cau am geisiadau: Hanner dydd ar ddydd Mercher, Awst 5 2026 

Dyddiad creu rhestr fer: Dydd Mawrth, Awst 11 2026 

Cyfwelir ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer ar: ddydd Mawrth, Awst 25 2026 

Anfonwch ffurflenni cais wedi eu cwblhau at: paula.reed@plaid.cymru