Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Sylwch: contract am gyfnod penodol o 24 yw hwn
Y Swydd
Bydd rôl y swyddog cyfathrebu yn darparu cymorth hanfodol wrth ddatblygu a chyflwyno rhaglen gyfathrebu strategol lwyddiannus a hirdymor i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth cyfathrebu busnes gorau posibl i'n pobl, i'n cwsmeriaid ac i'n rhanddeiliaid.
Cyfrifoldebau'r swydd
Am beth rydyn ni'n chwilio
Sgiliau Cymraeg
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.