A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Lleoliad:
Aberystwyth
Cyflog:
£29,691 - £34,272
Cyfeirnod:
202603LLGC
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dyddiad Cau:
12-03-2026

Dyletswyddau Allweddol

  • Cynllunio a gweithredu rhaglen cynnwys cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell a chyfrannu at hyrwyddo casgliadau a gwaith y Llyfrgell trwy greu a rhannu cynnwys deniadol.
  • Cynllunio a gweithredu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol mewn cydweithrediad â’r Tîm Cyfathrebu a Marchnata.
  • Gweithredu cynllun cynnwys i hyrwyddo Arddangosfeydd y Llyfrgell ar draws cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  • Arwain ar ddatblygu a chyhoeddi fideos i hyrwyddo’r Llyfrgell, gan gynnwys cynnwys ar YouTube.
  • Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a chyflwyno adroddiadau.
  • Cynghori ar raglen hysbysebu ddigidol y Llyfrgell.
  • Cydlynu prosesau sy’n galluogi staff i amlygu straeon sy’n cyfrannu at hyrwyddo’r sefydliad.
  • Ysgrifennu copi cywir a deniadol ar gyfer deunyddiau hyrwyddo.
  • Cydlynu, ysgrifennu ac anfon cylchlythyron ebost i gynulleidfaoedd targed.
  • Gweinyddiaeth Polisi Cyfryngau Cymdeithasol y Llyfrgell (creu cyfrifon, cadw cofnodion, hysbysu staff o newidiadau).
  • Rhannu cyngor ac arfer gorau i staff eraill sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
  • Sicrhau cysondeb wrth frandio Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Adnabod anghenion dysgu a datblygu a mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen.
  • Cynnal dealltwriaeth o ddeddfwriaeth hygyrchedd y We, GDPR a hawlfraint.
  • Helpu i staffio digwyddiadau gyda’r hwyr ac ar benwythnosau pan fo’r galw.
  • Cyfrannu at waith timau eraill y Gyfarwyddiaeth yn ôl y galw.

Darperir y Swydd Ddisgrifiad hon i roi amlinelliad bras o'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r rôl. Efallai y bydd gofyn cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u nodi yma ond sy'n gymesur â graddfa’r swydd. Gellir diwygio’r Swydd Ddisgrifiad o bryd i’w gilydd o fewn cwmpas a lefel y cyfrifoldeb sy’n berthnasol i’r swydd.

 

Cyfrifoldeb

  • Cyfrifoldeb dros raglen cynnwys cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell.
  • Cyfrifoldeb dros bresenoldeb y Llyfrgell ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau cynnwys digidol.
  • Cyfrifoldeb dros fonitro ac adrodd ar berfformiad cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfrifoldeb dros rannu cyngor ac arfer gorau i staff eraill.
  • Cyfrifoldeb dros ddatblygu cynnwys fideo.
  • Cyfrifoldeb dros gynhyrchu a dosbarthu prif gylchlythyr y Llyfrgell.
  • Cyfrifoldeb dros ddelwedd ac enw da’r Llyfrgell mewn achlysuron cyhoeddus.
  • Cyfrifoldeb dros safon a chywirdeb gwybodaeth a gyflwynir.

 

Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.

Am becyn gwybodaeth a manylion am sut i wneud cais cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol y Llyfrgell ar 01970 632530/1; neu Ebost: swyddi@llgc.org.uk