A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cyfathrebu a Chysylltu â'r Gymuned / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltu â'r Gymuned
Lleoliad:
Merthyr Tudful, Gweithio o Gartref
Cyflog:
Cyflog Deiniadol
Cyfeirnod:
202509TC
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Golley Slater
Dyddiad Cau:
19-09-2025

Cymraeg yn Hanfodol

 

Hybrid / 37 awr yr wythnos

 

Cyflog deniadol                       

 

Dyddiad cau: 16:00 ar 19 Medi 2025

 

Ymunwch â Datblygwr Ynni Adnewyddadwy Arloesol sy'n Eiddo Cyhoeddus

 

Mae Trydan Gwyrdd Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023, yn gyrru trawsnewidiad Cymru i ddyfodol glanach a gwyrddach ymlaen. Ein cenhadaeth yw cyflymu'r broses o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ystâd gyhoeddus Cymru—yn bennaf trwy ynni gwynt ar y tir a ffotofoltäig solar—gan roi sero net a buddion cymunedol wrth wraidd y trawsnewidiad hwn.

Ein nod uchelgeisiol? Un gigawat o ynni glân sy'n eiddo lleol, sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol erbyn 2040. Yn fwy na dim ond pŵer, rydym yn cynhyrchu refeniw a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau ledled Cymru, creu swyddi gwyrdd o ansawdd uchel, a meithrin cymunedau gwirioneddol gynaliadwy.

Mae'r argyfwng costau byw presennol yn tanlinellu rôl hanfodol ynni yn y gymdeithas. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i ddatblygu modelau arloesol o rannu buddion, gan sicrhau bod ein prosiectau'n cyflawni gwelliannau ystyrlon a pharhaol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

 

Byddwch yn Rhan o’r Newid

 

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltu â'r Gymuned i ymuno â'n tîm sy'n tyfu. Byddwch yn adrodd i Bennaeth Cynnwys y Cyhoedd, ac yn chwarae rhan allweddol wrth lunio a chyflawni ein strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu corfforaethol, wrth gynorthwyo gyda negeseuon prosiectau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws mentrau cyfredol a mentrau sydd ar ddod yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Yn y rhanbarthau hyn, mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang ac yn aml yn brif iaith cymunedau lleol. Er mwyn sicrhau ymgysylltiad ystyrlon a chynhwysol â thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid, mae'r rôl yn gofyn am sgiliau rhyngbersonol ac iaith rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Yn ddelfrydol, bydd ymgeiswyr yn byw o fewn cyrraedd hawdd i ogledd a chanolbarth Cymru. Disgwylir i ddeiliad y swydd hefyd fynychu swyddfeydd Merthyr Tudful o leiaf ddwywaith y mis.

 

 

Lleoliad

Rydym yn gweithredu model gweithio hybrid, gan gydbwyso gweithio o bell â chydweithio yn y swyddfa. Er bod ein Pencadlys ym Merthyr Tudful, cynhelir cyfarfodydd a gweithgareddau allweddol mewn gwahanol leoliadau Llywodraeth Cymru ledled Cymru.

 

Pam Ymuno â ni?

 

28 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 o wyliau cyhoeddus - Cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig i helpu eich dyfodol - Cyfleoedd gweithio hyblyg a phwyslais ar gydbwysedd bywyd a gwaith - Cynllun aberthu cyflog cerbydau trydan - Amgylchedd gwaith cydweithredol, cynhwysol a chefnogol

Yn Trydan Gwyrdd Cymru, rydym yn adeiladu gweithle lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a lle mae cynhwysiant yn flaenoriaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac nid ydym yn gwahaniaethu ar sail hil, rhywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, nac unrhyw ffactor arall. Bydd ceisiadau gweithio hyblyg yn cael eu hystyried.

Os ydych chi'n barod i fod yn rhan o daith gyffrous tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, wedi'i bweru'n lleol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

 

Ymgeisiwch nawr yn: Swyddi | Trydan Gwyrdd Cymru