Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Manyleb Swydd:
Swyddog Cefnogi Ymgyrchoedd a Data
|
Teitl y Swydd: |
Swyddog Ymgyrchoedd a Data |
|
Lleoliad: |
Pencadlys Plaid Cymru, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm o weithio o bell a gweithio yn y swyddfa. |
|
Math o Gontract |
Parhaol Cynigir y contract ar sail barhaol, ac y mae’n amodol ar gwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus. Hyblyg – Byddai Plaid Cymru yn croesawu ymgeiswyr sydd am ymgymryd â’r rôl hon yn llawn-amser neu’n rhan-amser. |
|
Cyflog |
Band 3 (£26,345– £33,873) Gwneir penodiadau fel arfer ar ben isaf y gyfradd |
|
Oriau Gwaith |
37 awr yr wythnos, gyda’r angen i weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau ar adegau. Mae Plaid Cymru yn gweithredu system o oriau gwaith hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn pro rata gyda dyddiau braint ychwanegol. |
Pwrpas y rôl:
Mae Uned Ymgyrchu Cenedlaethol Plaid Cymru yn chwilio am unigolyn ymroddedig a dawnus i ymuno a’u tîm llwyddiannus, i gefnogi etholiadau ac ymgyrchoedd y blaid wrth iddi edrych ymlaen at yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2027 a thu hwnt.
Bydd gan ddeiliad y swydd ddiddordeb mewn ymgyrchu gwleidyddol a gwybodaeth o sut i ddefnyddio rhaglenni data fel Excel, a bod yn barod i ddysgu am systemau cefnogi ymgyrchoedd y blaid, a’u datblygu. Bydd yn cynorthwyo i gyflwyno hyfforddiant a chefnogaeth i wirfoddolwyr mewn defnyddio meddalwedd etholiad y blaid, ac yn cefnogi etholaethau ac ymgeiswyr i gyflwyno ymgyrchoedd effeithiol.
Prif gyfrifoldebau:
Cynnal, datblygu a hyrwyddo cronfa ddata genedlaethol y blaid o etholwyr
Cefnogi defnyddwyr lleol y gronfa ddata genedlaethol, gan sicrhau eu bod yn cadw at bolisïau diogelu data
Paratoi a chyflwyno cynllun hyfforddi i sicrhau datblygu sgiliau aelodau’r blaid wrth ddefnyddio e-ganfasiwr
Helpu i holi’r data sydd ar gael yn y system i’w ddefnyddio ar draws y blaid; o ran ymgyrchoedd, aelodaeth a dibenion eraill.
Cymryd rhan yn rhaglen waith ehangach yr Uned Ymgyrchoedd Genedlaethol, i gefnogi cyflwyno ymgyrchoedd etholiad effeithiol gan y blaid yn gyfan
Paratoi allbynnau o’r gronfa ddata o etholwyr i’w defnyddio mewn ymgyrchu ac etholiadau
Paratoi adroddiadau gan ddefnyddio meddalwedd y gronfa ddata o etholwyr
Sgiliau Allweddol a Phrofiad
Hanfodol:
Ymrwymiad i werthoedd Plaid Cymru
Gwybodaeth waith gadarn o systemau cronfeydd data ac Excel, a gallu i ddysgu ac ymaddasu i systemau newydd
Dealltwriaeth o etholiadau ac ymgyrchu
Gallu i gyfathrebu a chefnogi pobl i ddefnyddio meddalwedd
Ymwybyddiaeth o reoli data yn briodol ac yn gyfrinachol
Y gallu i weithio i derfynu amser, bod yn drefnus a rheoli amser ac adnoddau yn effeithiol
Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, a datblygu perthynas waith dda ar draws meysydd cyfrifoldeb
Dymunol:
Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg
Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
Profiad o weithio mewn sefydliadau gwleidyddola/neu rai a arweinir gan yr aelodau
__________________________
Dyddiad cau am geisiadau: 10am – Gwener 2ail o Hydref.
Cynhelir cyfweliadau i ymgeiswyr ar ddydd Llun yr 12fed o Hydref.
Anfonwch ffurflenni cais wedi eu cwblhau at: paula.reed@plaid.cymru