Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfC) yn gorff statudol a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae ganddo swyddogaethau statudol sydd wedi'u nodi yn Neddf Nghomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ac ati. 2013, Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Mae swyddogaethau CDFfC fel a ganlyn:
Mae Comisiwn Ffiniau i Gymru yn gorff statudol a noddir gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) ac mae ganddo swyddogaeth statudol a nodir yn Neddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y'i diwygiwyd).
Swyddogaeth CFfG yw:
Mae'r Tîm Gwasanaethau Corfforaethol wrth wraidd gweithrediadau CDFfC o ddydd i ddydd, gan ddarparu'r cymorth busnes, llywodraethu a gwasanaethau gweinyddol sy'n galluogi'r sefydliad i gyflawni ei swyddogaethau statudol yn effeithiol. Mae'r tîm yn cefnogi'r Cadeirydd, y Comisiynwyr, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a staff ehangach drwy gydlynu cyfarfodydd, rheoli gohebiaeth a blychau post a rennir, cadw cofnodion a logiau gweithredu cywir, cefnogi prosesau cyllid a chaffael, cynorthwyo gyda gweinyddu adnoddau dynol a recriwtio, a helpu i sicrhau bod gwybodaeth, polisïau a systemau wedi'u trefnu'n dda ac yn gyfredol.