Swydd:
Cydlynydd Busnes a Gweinyddol
Cyflog:
£34,434 - £36,363
Cyfeirnod:
Cyfpers26-32853
Math o Swydd:
Parhaol
( 37 Awr )
Cydlynydd Busnes a Gweinyddol
Tai ac Eiddo
Uned Reoli
Dyddiad cau:27/07/2026 10:00
Math Swydd/Oriau:Parhaol | 37 Awr
Cyflog:£34,434 - £36,363 y flwyddyn
Gradd tâl:S3
Lleoliad(au):Caernarfon
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch > Pecyn Gwybodaeth
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Chwarae rôl ganolog wrth sicrhau bod gwasanaethau gweinyddol yr adran yn cael eu darparu’n effeithlon, yn broffesiynol ac yn unol â safonau sefydliadol.
- Cymryd rôl arweinydd tîm er mwyn goruchwylio’r gwaith a rhoi arweiniad gweithredol/dydd-i-ddydd i aelodau o’r tîm yn ôl y galw ac o fewn cwmpas y swydd.
- Cymryd rôl weithredol yng ngwaith y tîm, gan weithio fel rhan o’r tîm i ymdrin â holl faterion cefnogaeth fusnes a gweinyddol yr Adran.
- Cefnogi’r Uwch Swyddog Gweithredol, Uned Reoli, a rheolwyr yr Adran Tai ac Eiddo, gyda materion ariannol a gweinyddol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Gweithredu fel Rheolwr Llinell i'r tîm Cyllid a Gweinyddol
- Cyfrifol am offer personol
- Cyfrifol am archebu, storio a dyrannu offer a deunyddiau a archebir ar gyfer defnydd cyffredinol yr Adran.
Prif Ddyletswyddau.
Dyletswyddau Cydlynydd
- Gweithredu fel rheolwr llinell i dîm Cyllid a Gweinyddol Tai ac Eiddo drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth yn ôl yr angen, dyrannu tasgau, rheoli llwyth gwaith a chydlynu gweithgaredd y tîm.
- Arwain, datblygu, gwerthuso a chymell yr aelodau o staff y tîm i weithio i’w llawn botensial gan osod targedau ac amcanion priodol a mesur cyflawniad yn erbyn y targedau hynny.
- Cymryd pob cam posibl i sicrhau bod gwaith hanfodol yr uned yn cael ei gwblhau yn unol â threfniadau’r Adran h.y. trefniadau i ddelio ag absenoldebau, cyfyr swyddfa ac ati.
- Cyfrifol am gynnal gweithrediad effeithlon ac effeithiol o swyddogaethau gweinyddol a busnes ar gyfer Uned Busnes Tai ac Eiddo gan sichrau trefniadau cadarn yn eu lle i fonitro perfformiad.
- Sicrhau bod trefniadau cadarn ac effeithiol ar waith i alluogi i archebion, anfonebau a derbyniadau gael eu prosesu yn amserol ac yn gywir.
- Cyfrifol am sicrhau bod trefniadau cadarn ac effeithiol ar waith i fonitro materion ariannol rheolaeth tai yr Adran, gan gynnwys incwm a gwariant, a darparu adroddiadau rheolaidd ac yn ôl y galw i reolwyr ac uwch reolwyr.
- Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Gweithredol i fonitro, cydlynu a gweinyddu cerbydau pŵl yr Adran Tai ac Eiddo, gan sicrhau bod gwasanaethau angenrheidiol yn cael eu cyflawni a materion hanfodol yn derbyn sylw.
- Defnyddio arbenigedd i adnabod ac ymchwilio i ddatblygiadau parhaus drwy ddatrys problemau, herio a chynnig syniadau newydd am gwblhau tasgau ac yn dangod arloesedd trwy gyfrannu at ddylunio systemau newydd.
- Cymryd cyfrifoldeb gweithredol dros roi sylw i broblemau a materion sy’n codi o ddydd-i-ddydd, gan chwilio am ddatrysiadau addas yn amserol ac effeithiol, neu uchafu materion sydd tu hwnt i lefel cyfrifoldeb y swydd, gan gydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau.
- Ymgymryd â thasgau uwch, cymhleth, sydd y tu hwnt i ddyletswyddau a rôl gweddill aelodau’r tîm, e.e. cysoni archebion a thaliadau, datrys gwallau prosesu archebion sy’n cyrraedd y system FPM, awdurdodi neu gymeradwyo taliadau, bod yn bwynt esgoli cyntaf ar gyfer materion a godai sy’n deillio o waith y tîm.
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf a gallu ymdrin â chwsmeriaid a rhanddeiliaid mewn modd cwrtais, cywir a phroffesiynol.
Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Gallu gweithio fel aelod o dîm neu’n unigol.
Meddu ar y gallu i flaenoriaethu tasgau i gwrdd â thargedau amser pendant.
Sgiliau trefnu effeithiol a gallu gweithio dan bwysau pan fo amserlenni tynn.
Gwydn, dibynadwy a hyblyg.
Gallu gweithio i safon gyson o gywirdeb.
Gallu sefydlu a meithrin perthynas waith briodol a phroffesiynol gydag eraill ar draws nifer o feysydd gwaith gwahanol.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Sion Elwyn Hughes ar SionElwynhughes@gwynedd.llyw.cymru
Cynhelir cyfweliadau ar 11/08/2026.
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 27/07/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.