A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Materion Busnes (Dros Dro) / Swyddle
Swydd:
Swyddog Materion Busnes (Dros Dro)
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£30,000
Cyfeirnod:
2694as4c
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( Dros Dro 12 mis neu 14 mis )
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
21-09-2026

Swyddog Materion Busnes (Dros Dro)

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

 

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

 

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni symud ymlaen i weithredu ar strategaeth 2030. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Materion Busnes dros dro.

 

Trosolwg y Swydd

Byddwch yn rhan allweddol o dîm sy’n gweithredu’n ymarferol, gan ddarparu cefnogaeth i’r tîm gomisiynu yn effeithiol ar gyfer yr holl gynnwys aml-lwyfan sy’n ymddangos ar wasanaethau S4C bob blwyddyn. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Materion Busnes, cwmnïoedd cynhyrchu a’r adran gyfreithiol i allu gweithredu rhaglen o syniad i gael ei ddarlledu fel rhaglen ar sawl gwahanol blatfform.

 

Er rôl dros dro, mae hyn yn rôl sy'n hynod bwysig ac yn weladwy iawn gyda chwmnïoedd cynhyrchu a’r diwydiant darlledu yng Nghymru. Bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y diwylliant i allu cydweithio yn effeithiol a gweithredu ar syniadau.

 

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

 

Fel Swyddog Materion Busnes dros dro, byddwch chi’n:

  • Aelod o’r tîm Materion Busnes, gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Materion Busnes, Swyddogion eraill a’r Gweinyddwr Hawliau.
  • Cydweithio yn agos gyda chydweithwyr ar draws adrannau er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnwys sy’n cael ei gomisiynu gan S4C yn cael ei lywio a’i weinyddu’n effeithiol o’r syniad cychwynnol drwy’r broses gomisiynu a chytundebu hyd at ddarlledu ac adolygu.

 

Cefnogaeth i S4C a’r sector darlledu

  • Pwynt cyswllt pwysig rhwng comisiynwyr S4C a’r cwmnïau cynhyrchu gan sicrhau bod brîff golygyddol a busnes ar gyfer pob rhaglen neu gynnwys arall yn cael eu cwblhau’n gywir er mwyn adlewyrchu’r cytundeb rhwng S4C a’r cwmni cynhyrchu.
  • Sicrhau bod yr holl wybodaeth am y prosiectau ar gael i’r comisiynydd perthnasol ac i dimoedd ac adrannau eraill S4C ar hyd y daith.

Cytundebu

  • Darparu cytundebau i’r cwmnïau cynhyrchu gan gynnwys trwyddedau a chytundebau safonol yn unol â’r Telerau Masnach gan drafod a sicrhau’r cliriadau sydd eu hangen ar S4C. Bydd angen cydweithio’n effeithiol gyda’r Tîm Cyfreithiol o dro i dro ar gytundebau mwy cymhleth.
  • Lle’n briodol, bydd angen paratoi dogfennau a chydlynu prosesau tendr neu gystadleuaeth mewn cydweithrediad gyda’r Tîm Cyfreithiol.

 

Gweinyddu a Systemau

 

  • Rheoli’r gwaith o gydlynu’r wybodaeth a’r gwahanol elfennau ynghlwm â’r broses gomisiynu o’r syniad cychwynnol hyd at dderbyn yr holl ddeunydd cyfleu, gan gyfathrebu’n effeithiol gyda thimoedd ac adrannau eraill o fewn S4C.
  • Sicrhau bod unrhyw “waith papur” sydd ei hangen ar S4C gan gwmni cynhyrchu yn cael ei gyfleu yn gyflawn a phrydlon i S4C.

 

Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:

    • Ydych chi’n frwdfrydig dros greu diwylliant gwaith cynhwysol, egnïol ac iach.
    • Ydych chi’n mwynhau newid trawsnewidiol a chwilio am ffyrdd arloesol i weithredu.
    • Gallwch weithio’n annibynnol gyda rhyddid i wneud penderfyniadau ond hefyd yn mwynhau cydweithio gyda thîm ehangach i rannu syniadau.
    • Ydych yn drefnus iawn, gyda’r gallu i reoli llawer o fanylion, cytundebau a thasgau ar yr un pryd.
    • Yn gyfathrebwr cryf, yn gallu esbonio telerau cymhleth yn glir ac yn gweithio’n dda gyda gwahanol adrannau, cynhyrchwyr a chyfreithwyr.
    • Yn bositif ac yn adeiladol, yn gallu gweithio dan bwysau ac mewn amgylchedd sy’n aml yn symud yn gyflym.
    • Yn fanwl gywir, gan fod gwaith Materion Busnes yn aml yn cynnwys dogfennau sensitif a chyfreithiol sy’n gofyn am ofal a sylw manwl.
    • Yn broffesiynol ac yn ddibynnol, gyda chyfrinachedd a chynnig barn wrthrychol.
    • Ydych chi’n ymrwymedig i’ch datblygiad personol eich hun.
    • Ydych chi’n gyfathrebwr cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg (llafar ac ysgrifenedig -cymorth gloywi iaith ar gael).

 

Byddwch hefyd yn:

      • Ymwybodol o Strategaeth S4C 2030, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy'n cynnwys gweithio o fewn canllawiau iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
      • Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
      • Cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
      • Cydweithio gyda'ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
      • Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol a thraws-sefydliadol sy'n datblygu gwasanaethau gwych i'n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy'n trin pawb gyda pharch.

 

Beth fyddwch chi’n ei gael?

    • Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
    • Gweithio mewn amgylchedd hyblyg o fewn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
    • Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ei gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gymwysterau, hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus.
    • Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau a rhagolwg rhaglenni, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
    • Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
    • Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
    • 26 diwrnod o wyliau yn ogystal â gwyliau banc yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau

 

Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Angharad.Thomas@s4c.cymru.

 

Yn eich cais, sicrhewch eich bod yn amlygu’r sgiliau a’r profiad sydd gennych sydd yn berthnasol i’r rôl a restrir yn y fanyleb bersonol ac sy’n unol â’n gwerthoedd craidd. Rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.