A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arbenigwr Offer Tocynnau Bws / Swyddle
Swydd:
Arbenigwr Offer Tocynnau Bws
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
£50,400
Cyfeirnod:
REC01462
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
01-12-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd yr Arbenigwr Offer Tocynnau Bws yn gyfrifol am sicrhau bod dull gweithredu cenedlaethol Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar gyfer ffurfweddiad tocynnau a phrisiau tocynnau ac offer tocynnau bws yn cael ei gyflawni fel rhan o’r rhwydwaith bysiau presennol, a’r rhwydwaith bysiau yn y dyfodol ar ôl masnachfreinio, ar draws Cymru.

 

  • Cyflwyno dulliau gweithredu newydd a rhoi’r system ar waith gyda gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol cyn masnachfreinio, yn ystod y cyfnod pontio ac ar ôl masnachfreinio, i sicrhau dull technegol cyson ac effeithiol ar gyfer darparu tocynnau a phrisiau tocynnau bws ar draws Cymru.
  • Rheoli'r rhyngwyneb o ddydd i ddydd mewn perthynas â'r seilwaith tocynnau rhwng gweithredwyr bysiau, awdurdodau contractio, a TrC a Llywodraeth Cymru, drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein i sicrhau bod gofynion busnes yn cael eu bodloni a'u cefnogi'n dechnegol. 
  • Rheoli contractau a chysylltiadau â chyflenwyr seilwaith tocynnau bws drwy gyfarfodydd rheolaidd wyneb yn wyneb ac ar-lein i sicrhau bod yr amgylchedd tocynnau a phrisiau tocynnau’n cael ei gefnogi a'i gynnal, a bod materion sy'n cael eu codi gan weithredwyr a TrC yn cael sylw prydlon.
  • Datblygu'r fanyleb ar gyfer systemau prisiau tocynnau bws drwy fod yn ymwybodol o'r farchnad bresennol o gyflenwyr a datblygiadau newydd, a chynnal trafodaethau â gweithredwyr ac o fewn TrC i sicrhau y bydd y fanyleb yn sicrhau'r canlyniadau a fynnir gan system un cyflenwr ar gyfer offer tocynnau ar fysiau ledled Cymru, fel rhan o’r broses o fasnachfreinio bysiau.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad amlwg o ymgymryd ag ETM a ffurfweddiad caledwedd cysylltiedig mewn perthynas â chynhyrchion, prisiau tocynnau a phrosesau gosod gwasanaethau a'u hintegreiddio mewn systemau a gweithrediadau ehangach ym maes trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Profiad amlwg o ffurfweddu offer adrodd a systemau cefn swyddfa ETM datrys namau mewn systemau ETM, a chydweithio â gweithredwyr a chyflenwyr i gyflawni hynny.
  • Profiad amlwg o reoli prosiectau a chyllidebau trafnidiaeth, rheoli risg, gan gynnwys datblygu cynllun busnes, llunio rhagolygon a monitro gwariant.
  • Profiad amlwg o gydweithio â llywodraeth leol a chenedlaethol, a hanes llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a phrofiad amlwg o feithrin a rheoli cysylltiadau a chyflawni prosiectau gwella a phrosiectau technegol heriol sydd â phwyslais ar drafnidiaeth.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**