Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ymunwch â’n Bwrdd – Gwnewch wahaniaeth barhaol
Mae Barcud yn gymdeithas dai deinamig, sy’n gwasanaethu cymunedau ledled Powys, Ceredigion, Sir Gȃr a Sir Benfro. Rydym yn rheoli portffolio eang o dros 4,000 o gartrefi, gyda throsiant blynyddol o dros mwy na £28 miliwn, ac yn cyflogi dros 300 o staff ymroddedig.
Fel rhan o gynllunio olyniaeth busnes, rydym yn edrych i apwyntio aelod Bwrdd gydag ymwybyddiaeth arbenigol ym maes Adnoddau Dynol/Pobl a Diwylliant ac Aelod Cyfetholedig gyda profiad ym maes cyllid ac/neu rheoli trysorlys a fydd yn chwarae rhan hanfodol mewn gosod ein gweledigaeth, cenhadaeth a’n gwerthoedd ac yn sicrhau llywodraethiant cryf a llwyddiant hir dymor. Mi fyddwch yn darparu trosolwg a chefnogaeth i’r tîm arweinyddiaeth ac yn sicrhau ein bod yn cwrdd â’n cyfrifoldebau cyfreithiol, rheoleiddio ac ariannol. Gyda ffocws ar denantiaid, cymunedau a rhanddeiliaid allweddol, mi fyddwch yn helpu i annog diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant tra’n gyrru dulliau effeithiol o ran rheoli risg a gwneud penderfyniadau.
Mae’r cyfleoedd werth chweil yma yn gyfle i chi gyfrannu eich mewnwelediad strategol a’ch profiad i fudiad pwrpasol, ymroddedig i wneud gwahaniaeth.
Bydd disgwyl mynychu cyfarfodydd Bwrdd mewn person. Cynhelir cyfarfodydd yn Llanbedr Pont Steffan neu yn y Drenewydd.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Rhiannon Staley ar 01570 424366 neu wrth e-bost ar: Rhiannon.staley@barcud.cymru
Dyddiad cau | 9/11/26