A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynorthwyydd Ymchwilydd Twyll / Swyddle
Swydd:
Cynorthwyydd Ymchwilydd Twyll
Lleoliad:
De Cymru
Cyflog:
£35,000
Cyfeirnod:
REC002905
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
25-01-2026

Disgrifiad Swydd

 

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni elfennau o strategaeth diogelu refeniw TrC. Llunio pecynnau gwaith ar gyfer ymchwiliadau a chefnogi ymchwiliadau o’r fath, gan gynnwys ffeiliau achos yr erlyniad fel y bo’n briodol. Bydd deiliad y swydd hon hefyd yn cefnogi’r cylch gwaith diogelu refeniw ehangach ac yn rhyngweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan roi rhywfaint o gymorth gweinyddol i’r tîm ar yr un pryd.

 

  • Dadansoddi data o sganiau er mwyn canfod tueddiadau mewn twyll digidol i leihau niwed i’r busnes.
  • Paratoi pecynnau tystiolaeth o ddata sganio ar gyfer pob troseddwr unigol.
  • Dylunio a chynnal templedi cyswllt wedi’u teilwra ar gyfer pob ffrwd waith unigol
  • Casglu a chynnal cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth am yr holl gyswllt a wneir gyda throseddwyr a’r cynnydd diweddaraf ar gyfer pob achos yn unigol, a fydd yn cael eu trin yn unol â GDPR
  • Pan fydd troseddu'n disgyn o dan y trothwy ad-dalu, rhoi rhybuddion i atal yr ymddygiad rhag parhau a sicrhau bod y refeniw iawn yn cael ei dalu yn y dyfodol
  • Sicrhau bod proses ar waith gyda mecanweithiau priodol i ganiatáu i droseddwyr ad-dalu.
  • Cysylltu â chwsmeriaid, gan gyflwyno'r honiad o drosedd a’r dystiolaeth yn eu herbyn. Ymateb i unrhyw resymau lliniaru mae’r cwsmer yn eu cynnig a symud ymlaen naill ai drwy setlo neu erlyn.
  • Cyfrifo'r arian sy'n ddyledus gan gynnwys ffioedd gweinyddol penodol
  • Dechrau'r Broses Adfer Refeniw gyda thîm erlyniadau a setliadau cymeradwy TrC, gan ddelio â data'n ddiogel a chyfathrebu'n glir ac yn agored â nhw
  • Cyswllt rheolaidd â thîm erlyniadau a setliadau cymeradwy TrC i sicrhau bod y rhai sydd wedi cytuno i dalu TrC yn gwneud hynny'n brydlon
  • Cysylltu â thîm erlyniadau a setliadau cymeradwy TrC am unrhyw gwsmeriaid sydd wedyn yn methu â thalu a chytuno ar y camau nesaf i roi'r broses erlyn ar waith
  • Datblygu a chynnal gwybodaeth fanwl am gyfraith rheilffyrdd, deddfwriaeth twyll, achosion datganedig ac unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n codi fel sy'n berthnasol i'r ffrydiau gwaith gwahanol a'r dystiolaeth a gyflwynir.
  • Paratoi dogfennau ar gyfer achosion llys, p'un ai ydynt yn cael eu cychwyn gan dîm erlyniadau a setliadau cymeradwy TrC neu'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Sicrhau bod yr holl waith papur yn cael ei baratoi a'i gyflwyno yn unol â'r amserlenni sy'n berthnasol i'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei hystyried.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gallu deall gweithrediadau rheilffordd sylfaenol, daearyddiaeth a heriau sy’n ymwneud â thwyll ac achosion achlysurol o deithwyr yn ceisio osgoi talu am docynnau teithio
  • Rhaid bod yn gwbl gyfarwydd â Microsoft Word, Excel a PowerPoint
  • Profiad o weithio o fewn amserlenni tynn a pheidio â chynhyrfu o dan bwysau
  • Cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a glynu wrth god cyfrinachedd llym
  • Trefnus iawn ac yn gallu gweithio yn unol â phrosesau cadarn
  • Mae gwybodaeth am is-ddeddfau'r rheilffordd a’r Ddeddf Rheoleiddio Rheilffyrdd yn ddymunol

Sgiliau Iaith Gymraeg

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

 

Y camau nesaf

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.