Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Swydd Wag: Swyddog Gweinyddol, Gyrfa Cymru
Ydych chi'n chwilio am swydd sy’n rhoi cyfle i weithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sydd â ffocws ar gwsmeriaid i ymuno â'n tîm a darparu cefnogaeth weinyddol er mwyn ein galluogi ni i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfaoedd ac annog hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon fod â sgiliau Cymraeg lefel Ganolradd o leiaf.
Rôl Swydd: Swyddog Gweinyddol
Sylfaen: Canolfan Gyrfaoedd Llanelli
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener
Graddfa Gyflog: £25,957 - £26,131
Cyflog cychwynnol: £25,957 y flwyddyn.
Dyddiad Cau: Hanner nos ar y 21/10/26.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a gwasanaetha derbynfa effeithlon ac effeithiol i dîm Cymru’n Gweithio. Fel rhan o'r rhaglen hyfforddi ar gyfer y rôl, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Phrentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 2, os nad yw'n meddu ar y cymhwyster hwn eisoes.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos y canlynol:
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyna'r peth iawn i'w wneud!
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein proses recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl fod yn anabl gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu hamhariad neu wahaniaeth.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dylid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn hanner nos ar y 21/10/26. Bydd y broses ddethol ar ffurf prawf ymchwil/ysgrifenedig a chyfweliad. Bydd yr asesiadau hyn yn cael eu cynnal yn ddigidol drwy Teams; cynhelir y prawf ymchwil/ysgrifenedig ar 06/11/2026, a chynhelir y cyfweliadau ar 09/11/2026 ac ar fore’r 11/11/2026.
Ewch i wefan recriwtio Gyrfa Cymru i gael manylion am hyn a'n swyddi gwag eraill. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Buddion deniadol gan gynnwys gweithio hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Sylwch nad ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.