Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein prif werthoedd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad. Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, cydymdeimladol a llawn egni sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Pobl a Diwylliant.
Trosolwg o’r Swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus i gefnogi’r timau Gweithrediadau a Pobl a Diwylliant ar brosiect hanfodol i gydlynu ein gofynion storio corfforol ar draws y timau. Bydd hyn yn cynnwys digideiddio ffeiliau ac sicrhau bod ffolderi rhannu yn cydymffurfio â gofynion GDPR; ac archwilio eitemau corfforol mewn storfa fel setiau a dodrefn, gan nodi eitemau i’w cadw neu eu hailgylchu.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau trosglwyddiad diogel o gofnodion papur i gofnodion digidol, gan wella safonau rheoli dogfennau a chydymffurfiaeth yr adran, yn ogystal â symleiddio ein gofynion storio corfforol yn unol â’n prosesau gweithredol.
Manylion Pellach
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin. Mae S4C yn gweithredu polisi gwaith hybrid.
Cyflog: £26,000 y flwyddyn
Contract: Contract tymor penodol am 3 mis
Cyfnod Prawf: 1 mis
Oriau: Hyd at 35.75 awr yr wythnos
Gwyliau: Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. (Sylwer: bydd y nifer hwn yn cael ei gyfrifo'n ôl y gyfradd pro rata os ydych yn gweithio’n rhan amser).
Pensiwn: Mae staff cyflogedig yn gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol a all gael ei ddiwygio o bryd i’w gilydd. Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 3 Tachwedd i Pobl@s4c.cymru neu Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: 10 Tachwedd 2025
Ni dderbynnir CV.
Mae croeso i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.