A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | 2x Swyddog Cymorth Busnes (Cymraeg yn Hanfodol) / Swyddle
Swydd:
2x Swyddog Cymorth Busnes (Cymraeg yn Hanfodol)
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£27,302 i £29,291
Cyfeirnod:
LlywGSSCB2697 Cyf 4145
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 4
Math o Swydd:
Parhaol ( Llawn amser (croesewir ceisiadau rhan-amser, rhannu swydd a gweithio hyblyg). )
Cleient:
Llywodraeth Cymru I Welsh Government
Dyddiad Cau:
21-09-2026

Swyddogion cymorth tîm (dwy swydd)

Cyflog: Cymorth Tîm: £27,302 - £29,291

Lleoliad: Ledled Cymru (gweithio hybrid yn unol â pholisïau’r Llywodraeth). Mae gan y Gwasanaeth Cyfieithu staff yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno. Mae swyddfeydd hefyd ym Merthyr Tudful, Penlle’r-gaer a Wrecsam.

Cytundeb: Parhaol, Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)

Dyddiad Cau: 21 Medi 2026

Dyma gyfle gwych i ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, a chyfrannu at ein gwaith o gefnogi’r llywodraeth i gyflwyno’i rhaglen lywodraethu ac o gynorthwyo’r Gweinidogion i rannu eu negeseuon â’r cyhoedd.

PWRPAS Y SWYDDI

Darparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid. Ni fydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud unrhyw waith cyfieithu fel rhan o’r swydd.

Yr Uned Fusnes yw pwynt cyswllt cyntaf staff Llywodraeth Cymru â'r Gwasanaeth Cyfieithu. Byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol felly at gefnogi'r sefydliad i weithio'n ddwyieithog, gan gynnwys cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd.

Byddwch yn defnyddio systemau TG arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn helpu gyda'r offer cyfieithu ar y pryd yn ôl y gofyn, yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.

CYFLEOEDD DATBLYGU

  • Gweithio mewn gwasanaeth mawr, amlddisgyblaeth, a datblygu eich gallu a’ch sgiliau Cymraeg.
  • Gweithio i un o wasanaethau cyfieithu mwyaf Cymru, mewn uned sy'n ganolog i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfieithu proffesiynol i holl Weinidogion a staff Llywodraeth Cymru.
  • Datblygu set o sgiliau ym maes technoleg cyfieithu, gan gynnwys defnyddio systemau meddalwedd arbenigol i baratoi a dadansoddi dogfennau ar gyfer cyfieithwyr mewnol ac allanol.

RHAGOR O WYBODAETH

Defnyddiwch y botwm "Ceisio Nawr" i fynd i wefan y Llywodraeth er mwyn gweld pecyn gwybodaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a chael rhagor o wybodaeth am ofynion y swyddi, y meini prawf recriwtio, y broses ymgeisio a'r amserlen.