Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Swyddogion cymorth tîm (dwy swydd)
Cyflog: Cymorth Tîm: £27,302 - £29,291
Lleoliad: Ledled Cymru (gweithio hybrid yn unol â pholisïau’r Llywodraeth). Mae gan y Gwasanaeth Cyfieithu staff yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno. Mae swyddfeydd hefyd ym Merthyr Tudful, Penlle’r-gaer a Wrecsam.
Cytundeb: Parhaol, Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)
Dyddiad Cau: 21 Medi 2026
Dyma gyfle gwych i ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, a chyfrannu at ein gwaith o gefnogi’r llywodraeth i gyflwyno’i rhaglen lywodraethu ac o gynorthwyo’r Gweinidogion i rannu eu negeseuon â’r cyhoedd.
PWRPAS Y SWYDDI
Darparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid. Ni fydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud unrhyw waith cyfieithu fel rhan o’r swydd.
Yr Uned Fusnes yw pwynt cyswllt cyntaf staff Llywodraeth Cymru â'r Gwasanaeth Cyfieithu. Byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol felly at gefnogi'r sefydliad i weithio'n ddwyieithog, gan gynnwys cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd.
Byddwch yn defnyddio systemau TG arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn helpu gyda'r offer cyfieithu ar y pryd yn ôl y gofyn, yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.
CYFLEOEDD DATBLYGU
RHAGOR O WYBODAETH
Defnyddiwch y botwm "Ceisio Nawr" i fynd i wefan y Llywodraeth er mwyn gweld pecyn gwybodaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a chael rhagor o wybodaeth am ofynion y swyddi, y meini prawf recriwtio, y broses ymgeisio a'r amserlen.