Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Uwch-gyfieithwyr - cyfieithu testun (2 swydd)
Cyflog: HEO: £37,111 - £45,378
Bydd cyflog cychwynnol rhwng £37,111 a £41,834 yn cael ei gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus, yn seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, a pherfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod yr ystod hon.
Lleoliad: Ledled Cymru (gweithio hybrid yn unol â pholisïau’r Llywodraeth). Mae gan y Gwasanaeth Cyfieithu staff yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno. Mae swyddfeydd hefyd ym Merthyr Tudful, Penlle’r-gaer a Wrecsam.
Cytundeb: Parhaol, Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)
Dyddiad Cau: 21 Medi 2026
Dyma gyfle gwych i ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, a chyfrannu at ein gwaith o gefnogi’r llywodraeth i gyflwyno’i rhaglen lywodraethu ac o gynorthwyo’r Gweinidogion i rannu eu negeseuon â’r cyhoedd.
PWRPAS Y SWYDDI
CYFLEOEDD DATBLYGU
Gellir hefyd ystyried penodi ymgeiswyr i swyddi Cyfeithydd ar radd EO os na lwyddir i fodloni gofynion y radd hon. Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n cael cynnig swydd Cyfieithydd yn ymuno â chynllun datblygu strwythuredig i ddatblygu eu sgiliau a’u hymwybyddiaeth o waith y sefydliad, gan arwain at gyfleoedd i wneud cais am ddyrchafiad i swydd Uwch-gyfieithydd.
RHAGOR O WYBODAETH
Defnyddiwch y botwm "Ceisio Nawr" i fynd i wefan y Llywodraeth er mwyn gweld pecyn gwybodaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a chael rhagor o wybodaeth am ofynion y swyddi, y meini prawf recriwtio, y broses ymgeisio a'r amserlen.