A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynllunydd Trafnidiaeth x 4 / Swyddle
Swydd:
Cynllunydd Trafnidiaeth x 4
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
£37,200 - £44,000
Cyfeirnod:
REC01505
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
25-01-2026

Disgrifiad Swydd

Lleoliad: Pontypridd neu Wrecsam (mae opsiynau gweithio hybrid ar gael)

 

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Darparu cymorth a chyngor technegol ynglŷn â materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, gan gynnwys paratoi Achos Busnes ac arfarniad i’n cleientiaid ar draws ystod o brosiectau.

  • Rhoi cyngor ac arweiniad ar bolisi trafnidiaeth drwy baratoi achosion busnes, darparu dogfennau ac arfarniadau gan gyfeirio at Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ar gyfer prosiectau camau cynnar hyd at adran opsiwn unigol, er mwyn galluogi Trafnidiaeth Cymru (TrC) i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.
  • Cefnogir gwaith o ddarparu ystod o brosiectau ar yr un pryd drwy fodloni amserlenni prosiectau, cysylltu âr tîm prosiect, a defnyddior gadwyn gyflenwi lle bo angen, i gyflawnir prosiectau yn unol âr gyllideb, gan sicrhau eu bod o ansawdd da ac yn bodloni gofynion y cleientiaid.
  • Cefnogir gwaith o reoli ymgysylltiad â rhanddeiliaid a chleientiaid ar gyfer prosiectau, drwy hwyluso cyfarfodydd i gasglu a rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod prosiectau TrC yn gallu bwrw ymlaen mewn modd cydweithredol.
  • Datblygu gweithdrefnau ar gyfer prosiectau Cynllunio Trafnidiaeth TrC drwy ymgynghori rheoleiddiol a bod yn ymwybodol or newidiadau diweddaraf i ddeddfwriaeth a gweithio gydar gadwyn gyflenwi i sicrhau bod TrC ai bartneriaid yn defnyddior arferion gorau.
  • Cefnogi tîm Metro drwy ddarparu cyngor cynllunio trafnidiaeth technegol, drafftio ac adolygu briffiau a chymryd rhan mewn grwpiau adolygu drwy gydol y cylch datblygu prosiect er mwyn sicrhau ansawdd yr adroddiadau terfynol.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd Meistr mewn maes perthnasol fel Cynllunio Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Drefol, Cynllunio Trafnidiaeth a Pheirianneg neu dystiolaeth o brofiad cyfatebol yn gweithio mewn rôl Cynllunio Trafnidiaeth.
  • Yn gweithio at fod yn Gynllunydd Trafnidiaeth Siartredig e.e. TPP, ICE, IHT, CILT neu gyfwerth.
  • Profiad amlwg o gyflawni amrywiaeth o brosiectau cynllunio trafnidiaeth a/neu ddatblygu achosion busnes.
  • Profiad o gyfleu dadleuon technegol i gynulleidfa dechnegol ac annhechnegol.
  • Profiad amlwg o weithredu’r Model Pum Achos Gwell Achosion Busnes mewn perthynas â phrosiectau trafnidiaeth.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.*