A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Ailwylltio dan Hyfforddiant (22.5 awr yr wythnos) / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Ailwylltio dan Hyfforddiant (22.5 awr yr wythnos)
Lleoliad:
Tregaron
Cyflog:
£26,000 y flwyddyn, cyfwerth ag amser llawn
Cyfeirnod:
202603TN1
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Tir Natur

Amdanom Ni

Wedi’i gofrestru fel elusen yn 2022, nod Tir Natur yw gwella a gwarchod yr amgylchedd ffisegol a naturiol yng Nghymru er budd y cyhoedd drwy adfer y prosesau naturiol sy’n arwain at ecosystemau gwydn drwy ailwylltio. Drwy wneud hynny byddwn yn gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a helaethrwydd rhywogaethau yng Nghymru. Mae Tir Natur yn berchen ar 1200 erw o dir yng nghanolbarth Cymru.

Mae gwaith Tir Natur hefyd yn cwmpasu:

  • Hybu addysg ac ymwneud y cyhoedd ag egwyddorion adfer ecosystemau ac ailwylltio drwy hyrwyddo egwyddorion ailwylltio.
  • Hybu lles cymunedau yng Nghymru drwy hwyluso cysylltiad pobl â thirweddau naturiol a gwella mynediad i’r tirweddau hyn.

 

Dysgu a Datblygu

Swydd 12 mis dan hyfforddiant yw hon, â’r nod o feithrin sgiliau ymarferol a hyder mewn ailwylltio. Bydd deiliad y swydd yn dysgu wrth weithio dan oruchwyliaeth y Rheolwr Ailwylltio, gan ennill profiad mewn rheoli cynefinoedd, arolygu ecolegol, trin data, ymgysylltu â gwirfoddolwyr, gwirio lles da byw ac egwyddorion a phrosesau ailwylltio.

 

Monitro a Chefnogaeth

Caiff cynnydd ei gefnogi drwy sesiynau misol gyda’r Rheolwr Ailwylltio, cofnod dysgu, ac adolygiad ar ôl 6 mis i olrhain datblygiad a phennu anghenion hyfforddi pellach.

 

Canlyniad

Erbyn diwedd y contract, bydd gan ddeiliad y swydd sylfaen gref o sgiliau ymarferol ac ecolegol sy’n addas ar gyfer gweithio ym maes ailwylltio, cadwraeth, arolygu ecolegol neu reoli tir yn y dyfodol.

Gellir cefnogi cyrsiau hyfforddiant byr dewisol (e.e. cymorth cyntaf yn yr awyr agored, defnyddio offer yn ddiogel neu sgiliau arolygu) yn dibynnu ar anghenion a diddordeb.

 

Cyllid

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Ymgysylltu – cynnwys y gymuned leol a gwirfoddolwyr

  • Gweithio gyda’r Swyddog Cymunedau a Gwirfoddolwyr i ddarparu cyfleoedd hygyrch, hwyliog a gwerth chweil i wirfoddolwyr.
  • Dylunio, cydlynu a chynnal digwyddiadau atyniadol megis teithiau tywys a diwrnodau agored.
  • Cefnogi cymuned gyfeillgar a chynhwysol o wirfoddolwyr a chefnogwyr.
  • Tyfu rhwydwaith presennol Tir Natur o wirfoddolwyr drwy gysylltu â phobl leol a sefydliadau.
  • Nid oes cyfrifoldebau rheoli prosiectau ecolegol na chyllidebol ynghlwm wrth y rôl; y Rheolwr Ailwylltio fydd yn gyfrifol am benderfyniadau ar lefel uwch.

Ymchwil – arolygu a monitro ecolegol

  • Cyfrannu at gyflawni rhaglen arolygu a monitro ecolegol Tir Natur.
  • Cynorthwyo i nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith arolygu a monitro ecolegol dan arweiniad gwirfoddolwyr.
  • Cefnogi’r gwaith o gynllunio diwrnodau hyfforddiant i wirfoddolwyr a chydlynu arolygon gwirfoddolwyr.
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o gasglu, storio a dadansoddi data a llunio adroddiadau.

Tir – gwelliannau i gynefinoedd a rheoli mynediad

  • Dysgu am ailwylltio drwy dreulio amser ar y safle yn gweithio gyda’r Rheolwr Ailwylltio.
  • Mynychu sesiynau adrodd yn ôl gyda’r Rheolwr Ailwylltio i ddysgu am swyddogaeth a phroses ailwylltio.
  • Cefnogi’r tîm gyda gweithgareddau ymarferol i wella mynediad i ymwelwyr megis cynnal a chadw llwybrau troed cyhoeddus a gatiau, atgyweirio neu dynnu ffensys, a gosod a chynnal arwyddion.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros dasgau neu feysydd gwaith bach diffiniedig o dan arweiniad y Rheolwr Ailwylltio wrth i sgiliau ddatblygu.
  • Ennill profiad mewn rheoli cynefinoedd, er enghraifft adfer mawn a rheoli rhostir yr ucheldir.
  • Ennill profiad o weithio gyda da byw ar gyfer ailwylltio, gan gynnwys gwiriadau lles a rheoli pori naturiol gan ddefnyddio ffensys rhithwir.