Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant
(Rhaglenni Cymraeg)
ITV Cymru Wales
2 x cytundeb 12 mis
Lleoliad : Caerdydd
Cyflog : £24,898 - £29,034
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â TalkingCareers@itv.com
Mae eich gwaith yn bwysig
Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV. Nid yw’n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac rydym ar flaen y gad yn y chwyldro ffrydio digidol.
Byddwch yn ymuno â gweithle hwyliog gyda chyfleodd i ddysgu, tyfu a gwneud gwahaniaeth. Yn ddigon bach i chi allu dylanwadu o fewn y busnes ond hefyd yn ddigon mawr i’ch dylanwad gyrraedd miliynau o bobol.
Dewch i ddatblygu eich sgiliau, i newid teledu a chwrs eich gyrfa. Peidiwch gwylio yn unig. Byddwch yn rhan ohono. Ymunwch â ITV.
Gallwch gael dylanwad
Y tim
Mae ein tîm newyddion yn cynhyrchu cynnwys dibynadwy o safon uchel ar-lein ac ar deledu sy’n denu cynulleidfaoedd dros 3.5 miliwn yn gyson. Mae’n amgylchedd lle mae pethau yn gallu newid yn sydyn gydag amrywiaeth eang o rolau a sialensiau ar gael. Rydym yn gweithredu 11 prif ganolfan newyddion ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel. Mae gennym Uned Wleidyddol wedi ei lleoli yng nghalon San Steffan ac rydym hefyd yn cynhyrchu amrediad o gynnwys materion cyfoes a ffeithiol o ITV Cymru, UTV a ITV Border.
Y rôl
Ydych chi’n caru’r cyfryngau cymdeithasol?
Mwynhau siarad gyda phobl newydd a chlywed eu straeon?
Hoffi’r syniad o weithio rhywle lle mae bob diwrnod yn wahanol?
Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i un o’r uchod - dyma’r swydd i chi.
Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gydag S4C, yn chwilio am bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth, ac i greu cynnwys cyffrous yn y Gymraeg.
Bydd y cynllun hyfforddiant 12 mis yn eich galluogi i greu cynnwys newyddion a materion cyfoes ar Instagram Dim Sbin, Tiktok ‘Hansh Dim Sbin’ ac i wasanaeth Newyddion digidol S4C.
Byddwch yn ymateb i straeon y dydd gan greu cynnwys i blatfformau cyfryngau cymdeithasol gyda ffocws ar gyflwyno’r cynnwys i gynulleidfaoedd ifanc. Yn ogystal byddwch yn ysgrifennu erthyglau yn Gymraeg a cynhyrchu eitemau fideo i wasanaeth Newyddion S4C. Bydd cyfle i chi hefyd ymchwilio a datblygu syniadau gwreiddiol eich hunain ar bynciau gwahanol, o fyd y selebs i straeon am gyfiawnder cymdeithasol.
Bydd gennych ddiddordeb mewn newyddion a materion cyfoes ac â dealltwriaeth wych o blatfformau digidol a sut i’w defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Byddwch yn angerddol dros chwilio am amrywiaeth o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd weithiau yn cael eu tangynrychioli, ac yn frwd am adrodd straeon yn greadigol.
I ymgeisio, anfonwch CV a fideo 2 funud i ni yn ateb yr isod.
Ni fydd eich sgiliau cyflwyno yn cael ei asesu ond yn hytrach, cynnwys eich ateb. Mae croeso i chi anfon eich ateb yn ysgrifenedig petai hynny yn well gennych. Gallwch recordio eich clip ar eich ffon neu unrhyw declyn, a’i uwchlwytho i Youtube, (mwy o gyfarwyddiadau fan hyn) neu wefan arall (er mwyn cael linc bydd angen cyfrif Youtube neu arall arnoch). Cofiwch i labeli’r clip yn glir gyda’ch enw chi.
Hoffwn i chi ateb y ddau gwestiwn penodol yma -
Rhowch eich enw llawn, rhagenwau ac o ble ydych chi’n dod.
Mae gen i ddiddordeb i fod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant oherwydd……
Pa bynciau yr ydych chi’n teimlo’n angerddol amdanyn nhw a sut y byddent yn gweithio ar gyfer cynulleidfaoedd digidol?
Hoffwn i chi anfon eich atebion fel un fideo ac ni ddylai fod yn fwy na 2 funud o hyd.
Sgiliau allweddol
Yn rhugl yn Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar
Greddf Newyddiadurol
Meddyliwr Creadigol
Dealltwriaeth wych o blatfformau a strategaethau digidol
Angerddol dros gynyddu cynrychiolaeth a mynediad i gynnwys newyddion i gynulleidfaoedd ifanc.
Gofynion eraill y rôl
Diddordeb brwd mewn newyddion a materion cyfoes.
Sgiliau cyfathrebu a ieithyddol cryf.
Profiad o waith tîm.
Mae ITV i bawb.
Mae Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant yn graidd i bopeth yr ydym yn ei wneud yn ITV Cymru ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn adlewyrchu ein cynulleidfaoedd ar sgrin ac ar draws y tîm. Mae ITV i bawb ac rydym yn annog pobol sy’n fyddar, ag anableddau, yn niwrowahanol neu yn bobol o liw i ymgeisio am y rôl hon.
Mae ITV yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
Mae ein ystafelloedd newyddion yn brysur ac yn amgylchedd lle byddwch yn gweithio o dan bwysau, gan gynnwys cynhyrchu newyddion byw, lle mae’n aml yn angenrheidiol i wneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Rydym hefyd angen pobol sy’n gallu gweithio ar ei liwt ei hun.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw gefnogaeth y byddai angen arnoch yn ystod y cais a’r broses recriwtio. Cysylltwch â ni talkingcareers@itv.com a gallwch gael mwy o wybodaeth yma.
Mi fyddwn ni angen profi’r gallu hyn yn ystod y cyfweliad i ddeall sut y bydd ymgeiswyr yn ymateb wrth weithio o dan bwysau. Mae’n hanfodol i’r rôl. Byddwn yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gyfweld, er enghraifft rhannu themâu bras os yw’r cais yn gysylltiedig â chyflwr niwrowahaniaeth, wrth sicrhau ein bod dal yn medru profi gallu ymgeisydd i weithredu mewn amgylchedd ystafell newyddion.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw gefnogaeth/addasiadau y gallech chi fod eu hangen yn ystod y broses ymgeisio fel rhan o’n addasu rhesymol. Cysylltwch â ni ar talkingcareers@itv.com os ydych angen unrhyw beth.
Darganfyddwch mwy fan hyn os yn ymgeisio gydag anabledd.
* Efallai y bydd eithriadau lle na fedrwn fynd â’r holl ymgeiswyr sy’n gymwys i’r cam nesaf oherwydd nifer y ceisiadau.
Buddion gwych ITV
Mae ITV yn cynnig buddion gwych yn cynnwys
Gweithio hyblyg
Gwyliau hael a cyfle i brynu mwy
Cyfleoedd bonws yn flynyddol
Cyfraniadau pensiwn cystadleuol
Cynllun arbed arian a chyfle i brynu cyfranddaliadau ITV
Diwrnodau gwirfoddoli a lles ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i’ch cynorthwyo gyda balans iach.
Mwy am ein buddion fan hyn
Yn ITV rydym yn gwerthfawrogi'r defnydd o dechnoleg wrth ymchwilio ar gyfer eich cais. Ry’n ni’n deall bod AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn ddefnyddiol. Serch hyn, ry’n ni’n gwerthfawrogi gwreiddioldeb ac yn disgwyl i ymgeiswyr arddangos eu syniadau a’u profiadau eu hunain. Bydd ceisiadau sy’n ymddangos fel petaent wedi cael eu copïo yn uniongyrchol o gynnwys wedi ei greu gan AI, yn gallu cael eu gwrthod. Ry’n ni’n credu mewn proses teg a thryloyw wrth asesu ac mae cael blas o’ch gwir gymeriad chi yn hanfodol i lwyddo.
Dyddiad Cau: 03/08/25
Nodwch bod y cyfnod rhybudd i’r rôl yn 2 fis.