A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant (Rhaglenni Cymraeg) / Swyddle
Swydd:
Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant (Rhaglenni Cymraeg)
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£24,898 - £29,034
Cyfeirnod:
267
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
ITV PLC
Dyddiad Cau:
03-08-2025

 

Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant 

(Rhaglenni Cymraeg)

 

ITV Cymru Wales

 

2 x cytundeb 12 mis

 

Lleoliad : Caerdydd 

 

Cyflog :  £24,898 - £29,034

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â  TalkingCareers@itv.com


 

Mae eich gwaith yn bwysig

 

Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV.  Nid yw’n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac rydym ar flaen y gad yn y chwyldro ffrydio digidol.

 

Byddwch yn ymuno â gweithle hwyliog gyda chyfleodd i ddysgu, tyfu a gwneud gwahaniaeth. Yn ddigon bach i chi allu dylanwadu o fewn y busnes ond hefyd yn ddigon mawr i’ch dylanwad gyrraedd miliynau o bobol.

 

Dewch i ddatblygu eich sgiliau, i newid teledu a chwrs eich gyrfa. Peidiwch gwylio yn unig. Byddwch yn rhan ohono. Ymunwch â ITV. 

 

 

Gallwch gael dylanwad

 

Y tim

 

Mae ein tîm newyddion yn cynhyrchu cynnwys dibynadwy o safon uchel ar-lein ac ar deledu sy’n denu cynulleidfaoedd dros 3.5 miliwn yn gyson. Mae’n amgylchedd lle mae pethau yn gallu newid yn sydyn gydag amrywiaeth eang o rolau a sialensiau ar gael. Rydym yn gweithredu 11 prif ganolfan newyddion ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel. Mae gennym Uned Wleidyddol wedi ei lleoli yng nghalon San Steffan ac rydym hefyd yn cynhyrchu amrediad o gynnwys materion cyfoes a ffeithiol o ITV Cymru, UTV a ITV Border.




 

Y rôl

 

Ydych chi’n caru’r cyfryngau cymdeithasol? 

 

Mwynhau siarad gyda phobl newydd a chlywed eu straeon? 

 

Hoffi’r syniad o weithio rhywle lle mae bob diwrnod yn wahanol? 

 

Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i un o’r uchod - dyma’r swydd i chi. 

 

Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gydag S4C, yn chwilio am bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth, ac i greu cynnwys cyffrous yn y Gymraeg. 

 

Bydd y cynllun hyfforddiant 12 mis yn eich galluogi i greu cynnwys newyddion a materion cyfoes ar Instagram Dim Sbin, Tiktok ‘Hansh Dim Sbin’ ac i wasanaeth Newyddion digidol S4C. 

 

Byddwch yn ymateb i straeon y dydd gan greu cynnwys i blatfformau cyfryngau cymdeithasol gyda ffocws ar gyflwyno’r cynnwys i gynulleidfaoedd ifanc. Yn ogystal byddwch yn ysgrifennu erthyglau yn Gymraeg a cynhyrchu eitemau fideo i wasanaeth Newyddion S4C. Bydd cyfle i chi hefyd ymchwilio a datblygu syniadau gwreiddiol eich hunain ar bynciau gwahanol, o fyd y selebs i straeon am gyfiawnder cymdeithasol. 

 

Bydd gennych ddiddordeb mewn newyddion a materion cyfoes ac â dealltwriaeth wych o blatfformau digidol a sut i’w defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Byddwch yn angerddol dros chwilio am amrywiaeth o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd weithiau yn cael eu tangynrychioli, ac yn frwd am adrodd straeon yn greadigol. 

 

I ymgeisio, anfonwch CV a fideo 2 funud i ni yn ateb yr isod. 

 

Ni fydd eich sgiliau cyflwyno yn cael ei asesu ond yn hytrach, cynnwys eich ateb. Mae croeso i chi anfon eich ateb yn ysgrifenedig petai hynny yn well gennych.  Gallwch recordio eich clip ar eich ffon neu unrhyw declyn, a’i uwchlwytho i Youtube, (mwy o gyfarwyddiadau fan hyn) neu wefan arall (er mwyn cael linc bydd angen cyfrif Youtube neu arall arnoch). Cofiwch i labeli’r clip yn glir gyda’ch enw chi. 

 

Hoffwn i chi ateb y ddau gwestiwn penodol yma - 

 

  1. Rhowch eich enw llawn, rhagenwau ac o ble ydych chi’n dod.

  2. Mae gen i ddiddordeb i fod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant oherwydd……

  3. Pa bynciau yr ydych chi’n teimlo’n angerddol amdanyn nhw a sut y byddent yn gweithio ar gyfer cynulleidfaoedd digidol?

 

Hoffwn i chi anfon eich atebion fel un fideo ac ni ddylai fod yn fwy na 2 funud o hyd.


 

Sgiliau allweddol 

 

  • Yn rhugl yn Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar

  • Greddf Newyddiadurol 

  • Meddyliwr Creadigol

  • Dealltwriaeth wych o blatfformau a strategaethau digidol

  • Angerddol dros gynyddu cynrychiolaeth a mynediad i gynnwys newyddion i gynulleidfaoedd ifanc.

 

Gofynion eraill y rôl

 

Diddordeb brwd mewn newyddion a materion cyfoes.

Sgiliau cyfathrebu a ieithyddol cryf. 

Profiad o waith tîm.




 

Mae ITV i bawb.

 

Mae Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant yn graidd i bopeth yr ydym yn ei wneud yn ITV Cymru ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn adlewyrchu ein cynulleidfaoedd ar sgrin ac ar draws y tîm.  Mae ITV i bawb ac rydym yn annog pobol sy’n fyddar, ag anableddau, yn niwrowahanol neu yn bobol o liw i ymgeisio am y rôl hon. 

 

Mae ITV yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses). 

 

Mae ein ystafelloedd newyddion yn brysur ac yn amgylchedd lle byddwch yn gweithio o dan bwysau, gan gynnwys cynhyrchu newyddion byw, lle mae’n aml yn angenrheidiol i wneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Rydym hefyd angen pobol sy’n gallu gweithio ar ei liwt ei hun.

 

Rydym yn hapus i drafod unrhyw gefnogaeth y byddai angen arnoch yn ystod y cais a’r broses recriwtio. Cysylltwch â ni talkingcareers@itv.com a gallwch gael mwy o wybodaeth yma.

 

Mi fyddwn ni angen profi’r gallu hyn yn ystod y cyfweliad i ddeall sut y bydd ymgeiswyr yn ymateb wrth weithio o dan bwysau. Mae’n hanfodol i’r rôl. Byddwn yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gyfweld, er enghraifft rhannu themâu bras os yw’r cais yn gysylltiedig â chyflwr niwrowahaniaeth, wrth sicrhau ein bod dal yn medru profi gallu ymgeisydd i weithredu mewn amgylchedd ystafell newyddion. 

 

Rydym yn hapus i drafod unrhyw gefnogaeth/addasiadau y gallech chi fod eu hangen yn ystod y broses ymgeisio fel rhan o’n addasu rhesymol. Cysylltwch â ni ar talkingcareers@itv.com os ydych angen unrhyw beth.

 

Darganfyddwch mwy fan hyn os yn ymgeisio gydag anabledd.




 

* Efallai y bydd eithriadau lle na fedrwn fynd â’r holl ymgeiswyr sy’n gymwys i’r cam nesaf oherwydd nifer y ceisiadau. 



 

Buddion gwych ITV

 

Mae ITV yn cynnig buddion gwych yn cynnwys 

 

  • Gweithio hyblyg

  • Gwyliau hael a cyfle i brynu mwy

  • Cyfleoedd bonws yn flynyddol

  • Cyfraniadau pensiwn cystadleuol

  • Cynllun arbed arian a chyfle i brynu cyfranddaliadau ITV 

  • Diwrnodau gwirfoddoli a lles ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i’ch cynorthwyo gyda balans iach.

 

Mwy am ein buddion fan hyn




 

Yn ITV rydym yn gwerthfawrogi'r defnydd o dechnoleg wrth ymchwilio ar gyfer eich cais. Ry’n ni’n deall bod AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn ddefnyddiol. Serch hyn, ry’n ni’n gwerthfawrogi gwreiddioldeb ac yn disgwyl i ymgeiswyr arddangos eu syniadau a’u profiadau eu hunain. Bydd ceisiadau sy’n ymddangos fel petaent wedi cael eu copïo yn uniongyrchol o gynnwys wedi ei greu gan AI, yn gallu cael eu gwrthod. Ry’n ni’n credu mewn proses teg a thryloyw wrth asesu ac mae cael blas o’ch gwir gymeriad chi yn hanfodol i lwyddo.




 

Dyddiad Cau:    03/08/25


 

Nodwch bod y cyfnod rhybudd i’r rôl yn 2 fis.